Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 250(6)(g) o Ddeddf Tai 2004, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2016 Rhif (Cy. )

TAI, CYMRU

Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn cydgrynhoi darpariaethau Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012, Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio) 2014, Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2014 a Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio) 2015.

Maent hefyd yn dirymu ac yn diwygio’r ddeddfwriaeth a restrir yn rheoliad 52. 

Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth yng ngoleuni adrannau 30 i 34 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) o ran ceisiadau a wneir o dan Ddeddf 2014 mewn cysylltiad â gorchmynion atal rhent a gorchmynion ad-dalu rhent. Mae’r Rheoliadau hefyd yn rhoi pŵer i dribiwnlys eiddo preswyl (“tribiwnlys”) gau ceisiadau anweithredol. 

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn pennu’r weithdrefn sydd i’w dilyn o ran ceisiadau ac apelau (y cyfeirir atynt ar y cyd fel ceisiadau) a wneir i dribiwnlys o dan Ddeddf 2014, Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”), Deddf Tai 2004 (“Deddf 2004”) a Rhan 9 o Ddeddf Tai 1985 (“Deddf 1985”) sy’n ymwneud â gorchmynion dymchwel.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd mewn cysylltiad ag apelau a cheisiadau penodol i dribiwnlysoedd.

Mae rheoliad 1 yn pennu’r achosion y mae’r Rheoliadau yn gymwys iddynt.

Mae rheoliad 2 yn diffinio’r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau.

Mae rheoliad 3 yn nodi’r prif amcan o ymdrin yn deg ac yn gyfiawn â cheisiadau, a’r gofyniad i gydweithredu â’r tribiwnlys.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â cheisiadau am estyn yr amser ar gyfer gwneud cais, yn yr achosion hynny pan fo Deddf 2014, Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014, Deddf 2013 neu Ddeddf 2004 yn rhoi’r pŵer i dribiwnlys ganiatáu estyniad o’r fath.

Mae rheoliad 5 yn darparu, pan fo cais gan berson o dan Ddeddf 2013 yn ymwneud â mwy nag un llain neu gartref symudol, y caiff y cais gyfeirio at un ddarpariaeth yn unig yn Neddf 2013 ac mai’r nifer mwyaf o leiniau neu gartrefi symudol y caiff unrhyw gais unigol ymwneud â hwy fydd 20.

Mae rheoliad 6 yn rhoi manylion am yr wybodaeth sydd i’w chynnwys gyda chais, ac yn darparu ar gyfer dogfennau ychwanegol ar gyfer ceisiadau penodol, fel y’u nodir yn is-baragraff (2) o bob paragraff o’r Atodlen i’r Rheoliadau.

Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer y gweithdrefnau sy’n gymwys pan drosglwyddir mater sy’n codi o dan Ddeddf 2013 o lys i dribiwnlys.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chydnabod cais sy’n cyrraedd tribiwnlys, ac anfon copïau o’r dogfennau at yr ymatebydd, ynghyd â hysbysiad sy’n pennu’r dyddiad erbyn pryd y dylai’r ymatebydd ateb y tribiwnlys.

Mae rheoliad 9 yn ymdrin ag ateb yr ymatebydd.

Mae rheoliad 10 yn caniatáu i dribiwnlys gynnal gwrandawiad llafar ar fyr rybudd pan fo Awdurdod Tai Lleol wedi gwneud cais am awdurdodi gorchymyn rheoli interim o dan adran 102(4) neu (7) o Ddeddf 2004, a phan fo’n ymddangos i’r tribiwnlys, ar sail yr wybodaeth a gyflwynir gyda’r cais, fod amgylchiadau eithriadol penodedig yn bodoli.

Mae rheoliad 11 yn pennu’r gweithdrefnau ychwanegol sy’n gymwys mewn cysylltiad â chais a wneir o dan baragraff 7(1)(a) o Bennod 2, neu baragraff 40(1)(a) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013, am i dribiwnlys benderfynu pa un a yw cartref symudol, o ystyried ei gyflwr, yn cael effaith andwyol ai peidio ar amwynder y safle gwarchodedig.

Mae rheoliad 12 yn ymdrin â cheisiadau am gael ymuno fel parti i’r achos.

Mae rheoliad 13 yn pennu amgylchiadau pan ganiateir penderfynu ar y cyd ddau neu ragor o geisiadau gwahanol, neu benderfynu ar y cyd faterion penodol sy’n codi mewn ceisiadau gwahanol.

Mae rheoliad 14 yn darparu, pan na fo ffi ar gyfer cais wedi ei thalu o fewn 14 o ddiwrnodau, yr ystyrir bod y cais wedi ei dynnu yn ôl onid oes sail resymol dros beidio â gwneud hynny.

Mae rheoliad 15 yn galluogi cyflawni’r ddyletswydd i gyflenwi dogfen drwy ei chyflenwi i gynrychiolydd parti neu i gynrychiolydd person â buddiant, os gofynnir am hynny mewn ysgrifen.

Mae rheoliad 16 yn ei gwneud yn ofynnol bod tribiwnlys yn sicrhau bod personau â buddiant yn cael eu hysbysu ynglŷn â chais, gydag esboniad o’r weithdrefn ar gyfer gwneud cais i ymuno fel parti yn yr achos.

Mae rheoliad 17 yn ymdrin â dosbarthu dogfennau perthnasol gan dribiwnlys.

Mae rheoliadau 18 a 19 yn ymdrin â phwerau tribiwnlys i orchymyn cyflenwi gwybodaeth a dogfennau, ac â methiant i gydymffurfio â gorchymyn o’r fath.

Mae rheoliad 20 yn galluogi tribiwnlys i benderfynu cais heb gynnal gwrandawiad llafar. Rhaid rhoi rhybudd o 14 o ddiwrnodau o leiaf i’r partïon o’r bwriad i weithredu felly. Mae hawl gan y partïon i ofyn am wrandawiad llafar. Caiff aelod cymwysedig unigol o’r panel benderfynu bod cynnal gwrandawiad llafar yn briodol.

Mae rheoliad 21 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorchmynion interim, ac eithrio wrth benderfynu cais o dan adran 102(4) neu (7) o Ddeddf 2004.

Mae rheoliad 22 yn gwneud darpariaeth weithdrefnol mewn cysylltiad â chyfarwyddydau o dan bŵer cyffredinol tribiwnlys yn adran 230(2) o Ddeddf 2004.

Mae rheoliad 23 yn ymdrin ag arolygu’r fangre.

Mae rheoliad 24 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi tystiolaeth arbenigol gerbron tribiwnlys.

Mae rheoliad 25 yn galluogi tribiwnlys i gynnal cynhadledd rheoli achos (sydd wedi ei diffinio i gynnwys adolygiad cyn treial) ar ôl rhoi rhybudd o ddim llai na 7 niwrnod i’r partïon.

Mae rheoliad 26 yn rhoi manylion am weddill pwerau tribiwnlys o ran rheoli achosion. Mae rheoliad 26(1)(a) yn caniatáu i dribiwnlys gwtogi’r amser a bennir yn y Rheoliadau ar gyfer y gwahanol gamau mewn achos, pan fo’r partïon i gyd yn cytuno i’r cwtogiad sydd dan sylw. Mae rheoliad 26(1)(b) yn caniatáu i dribiwnlys estyn yr amser a bennir yn y Rheoliadau ar gyfer y gwahanol gamau mewn achos.

Mae rheoliad 27 yn ymdrin â rhoi hysbysiad sy’n pennu dyddiad, amser a lleoliad gwrandawiad, a rheoliad 28 yn rhoi pŵer i dribiwnlys ohirio gwrandawiad.

Mae rheoliad 29 yn nodi pwerau tribiwnlys yn ystod gwrandawiad, a rheoliad 30 yn gwneud darpariaeth ynghylch pryd y caniateir cynnal gwrandawiad yn breifat, fel eithriad i’r rheol gyffredinol y dylid ei gynnal yn gyhoeddus.

Mae rheoliad 31 yn nodi pwy sydd â hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat, ac yn ystod trafodaethau’r tribiwnlys wrth iddo benderfynu’r cais.

Mae rheoliad 32 yn galluogi tribiwnlys i fynd ymlaen â gwrandawiad yn absenoldeb parti a fethodd ag ymddangos.

Mae rheoliad 33 yn nodi sut a pha bryd y bydd tribiwnlys yn rhoi ei benderfyniad.

Mae rheoliad 34 yn darparu na chaiff tribiwnlys ddyfarnu costau o dan ei bwerau ym mharagraff 12 o Atodlen 13 i Ddeddf 2004 heb roi cyfle i’r parti dan sylw gyflwyno sylwadau.

Mae rheoliad 35 yn pennu sut y gellir tynnu cais yn ôl, yn rhannol neu’n gyfan gwbl, ac yn pennu’r gofynion y mae’n rhaid eu bodloni mewn amgylchiadau penodol fel bod tynnu cais yn ôl yn cael effaith.

Mae rheoliad 36 yn darparu ar gyfer gorfodi penderfyniad tribiwnlys yn y llys sirol, gyda chaniatâd y llys.

Mae rheoliad 37 yn cynnwys darpariaethau ynglŷn â cheisiadau i dribiwnlys am ganiatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd).

Mae rheoliad 38 yn ei gwneud yn ofynnol bod tribiwnlys yn gwneud trefniadau priodol os oes angen gwasanaethau cyfieithu, dehongli, neu gymorth arall ar unrhyw berson sy’n cymryd rhan yn yr achos, er mwyn ei alluogi i gyfranogi’n effeithiol yn yr achos.

Mae rheoliad 39 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r hyn sy’n gyfystyr â chyflenwi dogfen neu hysbysiad o dan y Rheoliadau. Mae’r ddarpariaeth yn cynnwys yr amgylchiadau pan fo’n dderbyniol cyfathrebu drwy ffacs, cyfathrebiad electronig neu wasanaeth danfon dogfennau preifat.

Mae rheoliad 40 yn darparu os yw’r amser a bennir yn y Rheoliadau ar gyfer cyflawni unrhyw weithred yn dod i ben ar benwythnos neu ŵyl gyhoeddus, ystyrir y bydd y weithred wedi ei chyflawni mewn pryd os cyflawnir hi ar y diwrnod gwaith nesaf sy’n dilyn.

Mae rheoliad 41 yn rhoi pŵer i dribiwnlys wrthod, yn rhannol neu’n gyfan gwbl, unrhyw gais yr ystyrir ei fod yn wacsaw neu’n flinderus, neu sydd rywfodd arall yn camddefnyddio proses tribiwnlys, ar ôl rhoi rhybudd o 14 o ddiwrnodau o leiaf i’r ceisydd. Mae hefyd yn rhoi’r pŵer i’r tribiwnlys wrthod cais os yw’r ymgeisydd wedi methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a ddyroddwyd gan y tribiwnlys, ar yr amod bod y tribiwnlys yn rhoi cyfle yn gyntaf i’r ymgeisydd gyflwyno sylwadau mewn perthynas â’r gwrthodiad arfaethedig.

Mae rheoliad 42 yn datgan na fydd afreoleidd-dra ar ran y partïon wrth gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, ohono’i hun, yn peri bod achos yn ddi-rym.

Mae rheoliad 43 yn caniatáu atgynhyrchu llofnod gan gyfrifiadur neu drwy ddull mecanyddol arall, ar yr amod yr ychwanegir enw’r person sy’n llofnodi o dan y llofnod, mewn modd sy’n galluogi adnabod y person hwnnw.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau, sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd mewn cysylltiad ag apelau a cheisiadau i dribiwnlysoedd, yn gymwys mewn perthynas ag apelau a cheisiadau o unrhyw un o’r disgrifiadau a bennir yn rheoliadau 44, 45, 46, 47 a 48.

Mae rheoliad 44 yn ei gwneud yn ofynnol talu ffi o £155 pan wneir cais i dribiwnlys o dan unrhyw un o ddarpariaethau Deddf 2004 a restrir yn y rheoliad hwnnw.

Mae rheoliad 45 yn ei gwneud yn ofynnol talu ffi o £155 pan wneir cais i dribiwnlys o dan unrhyw un o ddarpariaethau Deddf 1985 a restrir yn y rheoliad hwnnw.

Mae rheoliad 46 yn ei gwneud yn ofynnol talu ffi pan wneir cais i dribiwnlys o dan unrhyw un o’r darpariaethau yn Neddf 2013 a restrir yn y rheoliad hwnnw. Mae’r ffi sy’n daladwy yn amrywio rhwng £155 a £515.

Mae rheoliadau 47 a 48 yn ei gwneud yn ofynnol talu ffi o £155 pan wneir cais i dribiwnlys o dan unrhyw un o ddarpariaethau Deddf 2014 neu Ddeddf 2015 a restrir yn y rheoliadau hynny.

Mae rheoliad 49 yn gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â thalu ffioedd. 

Mae rheoliad 50 yn darparu bod y person sy’n gwneud y cais yn atebol i dalu’r ffi, ac yn darparu ar gyfer hepgor y ffi pan fydd y person hwnnw, neu bartner y person hwnnw, yn cael unrhyw un neu ragor o’r budd-daliadau a restrir yn rheoliad 50(2).

Mae rheoliad 51 yn nodi’r amgylchiadau pan gaiff tribiwnlys orchymyn un o’r partïon i gais i ad-dalu unrhyw ffioedd a dalwyd gan barti arall o dan reoliadau 44, 45, 46, 47 neu 48.

Mae rheoliad 52 yn rhestru’r Rheoliadau a’r Gorchmynion sy’n cael eu dirymu gan y Rheoliadau.

Mae’r Atodlen i’r Rheoliadau yn rhestru ceisiadau y caniateir eu gwneud i dribiwnlys ac yn pennu, mewn cysylltiad â phob math o gais, y dogfennau ychwanegol y mae’n rhaid eu cynnwys gyda’r cais, ac yn nodi’r personau y caniateir eu henwi fel ymatebwyr i’r cais.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 250(6)(g) o Ddeddf Tai 2004, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2016 Rhif (Cy. )

TAI, CYMRU

Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2016

Gwnaed                                                      

Yn dod i rym                     23 Tachwedd 2016

CYNNWYS

RHAN 1

Cyffredinol

1.       Enwi, cychwyn a chymhwyso

2.       Dehongli

RHAN 2

Gweithdrefnau Tribiwnlys Eiddo Preswyl

 

3.       Y prif amcan a rhwymedigaeth y partïon i gydweithredu â’r tribiwnlys

4.       Gofyn am estyn yr amser a ganiateir ar gyfer gwneud cais

5.       Terfyn ar nifer y lleiniau, y cartrefi symudol neu’r cyfeiriadau mewn cais unigol o dan Ddeddf 2013

6.       Manylion cais

7.       Ceisiadau yn dilyn trosglwyddo cais a wnaed o dan Ddeddf 2013 o’r llys i dribiwnlys

8.       Cydnabod cael cais a hysbysu ynghylch cais gan dribiwnlys

9.       Ateb gan yr ymatebydd

10.     Ceisiadau brys am awdurdodiad GRhI

11.     Ceisiadau o dan Ddeddf 2013 mewn perthynas ag effaith andwyol cartrefi symudol ar amwynder y safle

12.     Cais gan berson am gael ei drin fel ceisydd neu ymatebydd

13.     Penderfynu ceisiadau ar y cyd

14.     Talu ffioedd

15.     Cynrychiolwyr

16.     Cyflenwi gwybodaeth a dogfennau i bersonau â buddiant

17.     Cyflenwi dogfennau gan dribiwnlys

18.     Cyflenwi gwybodaeth a dogfennau gan bartïon

19.     Methiant i gydymffurfio â gorchymyn i gyflenwi gwybodaeth a dogfennau

20.     Penderfynu heb wrandawiad

21.     Gorchmynion interim

22.     Cyfarwyddydau

23.     Arolygu mangreoedd a’u cyffiniau

24.     Tystiolaeth arbenigol

25.     Cynhadledd rheoli achos

26.     Pwerau rheoli achos eraill

27.     Hysbysu ynghylch gwrandawiad

28.     Gohirio gwrandawiad

29.     Y gwrandawiad

30.     Gwrandawiad cyhoeddus neu breifat

31.     Personau sydd â hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat

32.     Methiant parti i ymddangos mewn gwrandawiad

33.     Penderfyniadau tribiwnlys wrth ddyfarnu ynghylch ceisiadau

34.     Penderfynu ynghylch costau

35.     Tynnu cais yn ôl

36.     Gorfodi

37.     Caniatâd i apelio

38.     Cymorth i gyfranogwyr

39.     Gofynion ynghylch cyflenwi hysbysiadau a dogfennau

40.     Amser

41.     Ceisiadau gwacsaw a blinderus etc.

42.     Afreoleidd-dra

43.     Llofnodi dogfennau

RHAN 3

FfioeddTribiwnlys Eiddo Preswyl

44.     Ffioedd am geisiadau a wneir o dan Ddeddf 1985

45.     Ffioedd am geisiadau a wneir o dan Ddeddf 2004

46.     Ffioedd am geisiadau a wneir o dan Ddeddf 2013

47.     Ffioedd am geisiadau a wneir o dan Ddeddf 2014

48.     Ffioedd am geisiadau a wneir o dan Ddeddf 2015

49.     Talu ffioedd

50.     Atebolrwydd i dalu ffi a hepgor ffioedd

51.     Ad-dalu ffioedd

52.     Dirymu

 

YR ATODLEN

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau o dan adran 250(2)(a) a (b) o Ddeddf Tai 2004([1]), ac Atodlen 13 iddi, ac a freinir bellach ynddynt hwy([2]) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 250(6)(g) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

RHAN 1

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2016, a deuant i rym ar 23 Tachwedd 2016.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i achosion gerbron tribiwnlysoedd eiddo preswyl ar gyfer penderfynu ceisiadau mewn cysylltiad â mangreoedd yng Nghymru.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “annedd” yr un ystyr ag a roddir i “dwelling” yn adran 322 o Ddeddf 1985;

mae i “asiant gosod”, mewn cysylltiad â chais a wneir o dan Ddeddf 2015, yr un ystyr ag a roddir i “letting agent” yn adran 84 o Ddeddf 2015;

ystyr “ATLl” (“LHA”) yw awdurdod tai lleol;

mae i “awdurdod pwysau a mesurau lleol”, mewn cysylltiad â chais a wneir o dan Ddeddf 2015, yr un ystyr ag a roddir i “local weights and measures authority” yn adran 69(2) o Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985;

mae i “awdurdod trwyddedu” (“licensing authority”) yr un ystyr ag a roddir yn adran 49(1) o Ddeddf 2014;

ystyr “cais” (“application”) yw cais neu apêl i dribiwnlys o dan—

(a)     Rhan 9 o Ddeddf 1985;

(b)     Deddf 2004;

(c)     Deddf 2013 (gan gynnwys unrhyw gais a wneir yn dilyn trosglwyddo unrhyw fater sy’n codi o gais a wnaed i’r llys o dan y Ddeddf honno);

(d)     y Rheoliadau Rheolau Safle([3]);

(e)     adrannau 17(4), 27(1), 30 a 32 o Ddeddf 2014; neu

(f)      Deddf 2015,

ac mae i “ceisydd” (“applicant”) ystyr cyfatebol;

ystyr “cais am awdurdodiad GRhI” (“IMO authorisation application”) yw cais am awdurdodiad i wneud gorchymyn rheoli interim o dan adran 102(4) neu (7) o Ddeddf 2004;

mae i “cartref symudol” (“mobile home”) yr un ystyr ag a roddir yn adran 60 o Ddeddf 2013;

mae i “credyd cynhwysol” yr un ystyr ag a roddir i “universal credit” yn adran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012([4]);

ystyr “cymdeithas trigolion gymwys” (“qualifying residents’ association”) yw cymdeithas sy’n bodloni’r gofynion a nodir yn adran 61 o Ddeddf 2013;

ystyr “cynhadledd rheoli achos” (“case management conference”) yw adolygiad cyn treial neu unrhyw gyfarfod arall a gynhelir gan dribiwnlys i’r diben o reoli’r achos mewn cysylltiad â chais;

ystyr “datganiad o resymau” (“statement of reasons”) yw datganiad o resymau a baratowyd gan yr ATLl o dan adran 8 o Ddeddf 2004 (rhesymau dros benderfyniad i gymryd camau gorfodi);

ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015([5]);

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014([6]);

ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013([7]);

ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Tai 2004([8]);

ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Tai 1985([9]);

ystyr “GRhAG” yw gorchymyn rheoli annedd gwag ac mae iddo yr un ystyr ag “EMDO” yn adran 132 o Ddeddf 2004;

mae i “landlord” (“landlord”), at ddibenion ceisiadau o dan adrannau 17(4), 27(1), 30 neu 32 o Ddeddf 2014, yr un ystyr ag a roddir yn adran 2(1) o’r Ddeddf honno;

mae i “llain” (“pitch”) yr un ystyr ag a roddir yn adran 55 o Ddeddf 2013;

ystyr “mangre” (“premises”) yw—

(a)     mewn unrhyw gais ac eithrio cais a wneir o dan Ddeddf 2013, Deddf 2014 neu Ddeddf 2015, yr annedd y mae’r cais yn ymwneud â hi neu’r adeilad y mae’n ymwneud ag ef;

(b)     mewn unrhyw gais a wneir o dan Ddeddf 2013, y llain y mae’r cais yn ymwneud â hi neu’r safle gwarchodedig neu’r cartref symudol y mae’r cais yn ymwneud ag ef; ac

(c)     mewn cais a wneir o dan Ddeddf 2015, unrhyw fangre, y dylai cyhoeddusrwydd fod wedi ei roi yno i ffi’r asiant gosod, y mae cais yn ymwneud â hi;

ystyr “meddiannydd” (“occupier”), mewn cysylltiad â chais a wneir o dan Ddeddf 2013, yw’r person sydd â hawl i leoli’r cartref symudol ar dir sy’n ffurfio rhan o’r safle gwarchodedig, ac i feddiannu’r cartref symudol fel unig neu brif breswylfa’r person hwnnw o dan gytundeb y mae Deddf 2013 yn gymwys iddo;

mae i “perchennog safle” (“site owner”) mewn perthynas â safle gwarchodedig, yr un ystyr ag a roddir i “perchennog” yn adran 62 o Ddeddf 2013;

ystyr “person â buddiant” (“interested person”) mewn perthynas â chais penodol yw—

(a)     person, ac eithrio’r ceisydd, a fyddai wedi bod â hawl o dan Ddeddf 2004 neu Ddeddf 1985 (yn ôl y digwydd) i wneud y cais;

(b)     person y mae’n rhaid i’r ceisydd roi hysbysiad o’r cais iddo yn unol â’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2004—

                           (i)    paragraff 11(2) o Atodlen 1; neu

                         (ii)    paragraff 14(2) o Atodlen 3;

(c)     person y mae’n rhaid i’r tribiwnlys roi cyfle iddo gael ei glywed yn unol â’r darpariaethau a ganlyn—

                           (i)    adran 34(4) o Ddeddf 2004; neu

                         (ii)    adran 317(2) o Ddeddf 1985;

(d)     ac eithrio’r ATLl, pan nad yw’n barti i’r cais, mewn perthynas â chais a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf 2013 neu Atodlen 2 iddi;

(e)     y person y mae’r meddiannydd yn dymuno gwerthu neu roi cartref symudol yn anrheg iddo o dan baragraffau 9 i 13 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013;

(f)      y person y mae’r meddiannydd yn dymuno aseinio llain iddo o dan baragraffau 41(1)(a) neu 41(1)(b) o Bennod 4 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013;

(g)     cymdeithas trigolion gymwys;

(h)     mewn perthynas â chais o dan Ran 2 o Ddeddf 2013, pan fo’n gymwys, perchennog y safle neu reolwr y safle, pan na fo’r person hwnnw’n barti i’r cais;

mae i “person priodol” yr un ystyr ag a roddir i “appropriate person” yn adran 73(10) o Ddeddf 2004;

ystyr “y Rheoliadau Rheolau Safle” (“the Site Rules Regulations”) yw Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014;

mae i “safle gwarchodedig” (“protected site”) yr un ystyr ag a roddir yn adran 2(2) o Ddeddf 2013;

ystyr “tribiwnlys” (“tribunal”) yw tribiwnlys eiddo preswyl, ac ystyr “y tribiwnlys” (“the tribunal”) mewn perthynas â chais yw’r tribiwnlys sydd i benderfynu’r cais;

mae i “tŷ annedd” yr un ystyr ag a roddir i “dwelling house” yn adran 183 o Ddeddf 1985; ac

ystyr “yr ymatebydd” (“the respondent”), mewn cysylltiad â phob cais y mae paragraff yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo, yw’r person neu’r personau, neu un o’r personau, a bennir yn is-baragraff (3) o’r paragraff hwnnw.

RHAN 2

Gweithdrefnau Tribiwnlys Eiddo Preswyl

Y prif amcan a rhwymedigaeth y partïon i gydweithredu â’r tribiwnlys

3.(1)(1) Pan fo tribiwnlys—

(a)     yn arfer unrhyw bŵer o dan y Rheoliadau hyn; neu

(b)     yn dehongli unrhyw reoliad yn y Rheoliadau hyn,

rhaid iddo geisio rhoi effaith i’r prif amcan o ymdrin yn deg ac yn gyfiawn â’r ceisiadau sydd i’w penderfynu ganddo.

(2) Mae ymdrin yn deg ac yn gyfiawn â chais yn cynnwys—

(a)     ymdrin â’r cais mewn ffyrdd sy’n gymesur â chymhlethdod y materion sy’n codi ynddo ac ag adnoddau’r partïon;

(b)     sicrhau, hyd y bo’n ymarferol, fod y partïon ar yr un gwastad â’i gilydd o safbwynt y weithdrefn ac y gallant gymryd rhan gyflawn yn yr achos;

(c)     cynorthwyo unrhyw barti gyda chyflwyno achos y parti heb argymell pa lwybr y dylai’r parti ei ddilyn;

(d)     defnyddio arbenigedd neilltuol y tribiwnlys yn effeithiol; ac

(e)     osgoi oedi, i’r graddau y bo hynny’n gydnaws â rhoi ystyriaeth briodol i’r materion o dan sylw.

(3) Rhaid i’r partïon—

(a)     cynorthwyo’r tribiwnlys i geisio rhoi effaith i’r prif amcan; a

(b)     cydweithredu â’r tribiwnlys yn gyffredinol.

Gofyn am estyn yr amser a ganiateir ar gyfer gwneud cais

4.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person yn gofyn i dribiwnlys am ganiatâd i wneud cais ar ôl diwedd y cyfnod a bennir yn Neddf 2004, Deddf 2013, Deddf 2014, Deddf 2015 neu’r Rheoliadau Rheolau Safle fel y cyfnod mae’n rhaid gwneud y cais oddi mewn iddo.

(2) Rhaid i gais am estyniad y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo—

(a)     bod mewn ysgrifen;

(b)     rhoi’r rhesymau dros y methiant i wneud y cais cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a thros unrhyw oedi ers hynny;

(c)     cynnwys datganiad bod y person sy’n gwneud y cais am estyniad yn credu bod y ffeithiau a ddatgenir ynddo yn wir; a

(d)     cael ei ddyddio a’i lofnodi.

(3) Pan wneir cais am estyniad fel a grybwyllir ym mharagraff (1), rhaid i’r ceisydd ar yr un pryd anfon at y tribiwnlys y cais cyflawn y gofynnir am yr estyniad mewn perthynas ag ef.

(4) Caiff aelod cymwysedig unigol o’r panel ganiatáu neu wrthod cais am estyniad a wneir o dan baragraff (1).

Terfyn ar nifer y lleiniau, y cartrefi symudol neu’r cyfeiriadau mewn cais unigol o dan Ddeddf 2013

5.(1)(1) Pan fo cais i dribiwnlys ar gyfer penderfynu unrhyw gwestiwn sy’n codi o dan Ddeddf 2013 yn ymwneud â mwy nag un llain neu gartref symudol, ni chaiff y cais gyfeirio at fwy nag un ddarpariaeth yn Neddf 2013.

(2) Ni chaiff cais a wneir i dribiwnlys ar gyfer penderfynu unrhyw gwestiwn sy’n codi o dan Ddeddf 2013 ymwneud â mwy nag 20 o leiniau neu gartrefi symudol.

Manylion cais

6.(1)(1) Rhaid i gais fod mewn ysgrifen a rhaid iddo gynnwys y manylion a ganlyn—

(a)     enw a chyfeiriad y ceisydd;

(b)     enw a chyfeiriad yr ymatebydd os yw’r manylion hynny’n hysbys i’r ceisydd neu, os nad ydynt yn hysbys, ddisgrifiad o gysylltiad yr ymatebydd â’r fangre;

(c)     cyfeiriad y fangre;

(d)     cysylltiad y ceisydd â’r fangre;

(e)     rhesymau’r ceisydd dros wneud y cais, gan gynnwys pa rwymedi a geisir;

(f)      pan fônt yn hysbys i’r ceisydd, enw a chyfeiriad unrhyw berson â buddiant;

(g)     datganiad bod y ceisydd yn credu bod y ffeithiau a ddatgenir yn y cais yn wir;

(h)     bod wedi ei lofnodi a’i ddyddio; ac

(i)      mewn cysylltiad â phob cais y mae paragraff yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo, y dogfennau a bennir yn is-baragraff (2) o’r paragraff hwnnw.

(2) Caniateir hepgor neu liniaru unrhyw un neu ragor o’r gofynion ym mharagraff (1) os bodlonir y tribiwnlys—

(a)     bod y manylion a’r dogfennau a gynhwysir mewn cais yn ddigonol i ddangos bod y cais yn un y caniateir ei wneud i dribiwnlys; a

(b)     na fydd unrhyw ragfarn yn cael ei hachosi, neu’n debygol o gael ei hachosi, i unrhyw barti i’r cais o ganlyniad i hepgor neu liniaru o’r fath.

(3) Caiff aelod cymwysedig unigol o’r panel arfer y pŵer a roddir gan baragraff (2).

Ceisiadau yn dilyn trosglwyddo cais a wnaed o dan Ddeddf 2013 o’r llys i dribiwnlys

7.(1)(1) Pan fo llys yn trosglwyddo i dribiwnlys unrhyw fater sy’n codi o gais a wnaed i’r llys o dan Ddeddf 2013, rhaid i’r ceisydd, yn ychwanegol at gydymffurfio â’r gofynion a gynhwysir yn rheoliad 6(1), gynnwys yn y cais gopi o’r gorchymyn llys a drosglwyddodd y mater.

(2) Caiff y tribiwnlys hepgor neu liniaru unrhyw un neu ragor o’r gofynion a gynhwysir ym mharagraff (1) os bodlonir y tribiwnlys ei fod wedi cael manylion a dogfennau digonol gan y llys i ddangos bod y cais yn un y caniateir ei wneud i dribiwnlys.

(3) Caiff aelod cymwysedig unigol o’r panel arfer y pŵer a roddir gan baragraff (2).

Cydnabod cael cais a hysbysu ynghylch cais gan dribiwnlys

8.(1)(1) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael y cais, rhaid i’r tribiwnlys anfon at y ceisydd i gydnabod bod y cais wedi dod i law, ac anfon copi o’r cais ac o bob dogfen a gyflwynwyd gyda’r cais at yr ymatebydd.

(2) Ac eithrio mewn achos y mae rheoliad 10 yn gymwys iddo, rhaid i’r tribiwnlys anfon hefyd hysbysiad at yr ymatebydd sydd—

(a)     yn pennu erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid i’r ymatebydd anfon yr ateb a grybwyllir yn rheoliad 9;

(b)     yn pennu bod rhaid i unrhyw ymateb gynnwys—

                           (i)    datganiad pa un a yw’r ymatebydd yn bwriadu gwrthwynebu’r cais ai peidio;

                         (ii)    os na chynhwyswyd hwy eisoes yn y cais, enw a chyfeiriad pob person â buddiant sy’n hysbys i’r ymatebydd; a

                       (iii)    y cyfeiriad lle dylid anfon dogfennau at ddibenion yr achos; ac

(c)     yn rhybuddio’r ymatebydd, os na fydd yr ymatebydd yn ymateb erbyn y dyddiad penodedig, a chyda’r wybodaeth benodedig, y caiff y tribiwnlys—

                           (i)    tybio nad yw’r ymatebydd yn bwriadu gwrthwynebu’r cais; a

                         (ii)    mynd ymlaen â’r mater mewn unrhyw ffordd a ystyrir yn rhesymol ganddo o dan amgylchiadau’r achos.

(3) Ni chaiff y dyddiad penodedig yn yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) fod yn llai na 14 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y’i gwnaed.

Ateb gan yr ymatebydd

9.(1)(1) Pan fo ymatebydd yn cael yr hysbysiad a grybwyllir yn rheoliad 8(2), rhaid i’r ymatebydd, erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, anfon ateb ysgrifenedig at y tribiwnlys, yn cydnabod iddo gael y copïau o’r dogfennau a anfonwyd yn unol â rheoliad 8(1) ac yn darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan reoliad 8(2).

(2) Pan fo’r ymatebydd yn methu ag ymateb erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a grybwyllir yn rheoliad 8(2) neu’n methu â darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan y paragraff hwnnw, caiff y tribiwnlys fynd ymlaen â’r mater mewn unrhyw ffordd a ystyrir yn rhesymol ganddo o dan amgylchiadau’r achos.

Ceisiadau brys am awdurdodiad GRhI

10.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r ATLl yn gofyn i dribiwnlys ymdrin â chais am awdurdodiad GRhI fel mater brys.

(2) Pan fo’n ymddangos i’r tribiwnlys, ar sail yr wybodaeth a gyflwynwyd gyda’r cais, fod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) yn bodoli, rhaid i’r tribiwnlys orchymyn cynnal gwrandawiad llafar (“gwrandawiad llafar brys”).

(3) Yr amgylchiadau eithriadol yw’r canlynol—

(a)     bod bygythiad di-oed i iechyd a diogelwch meddianwyr y tŷ neu i bersonau sy’n meddiannu unrhyw fangre yng nghyffiniau’r tŷ, neu sydd ag ystad neu fuddiant ynddi; a

(b)     drwy wneud y gorchymyn rheoli interim cyn gynted ag y bo modd (ynghyd, pan fo’n gymwys, â pha bynnag fesurau eraill y bwriada’r ATLl eu cymryd) y bydd yr ATLl yn gallu cymryd camau priodol yn ddi-oed i atal y bygythiad neu leihau’r bygythiad yn sylweddol.

(4) Rhaid i’r tribiwnlys, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, hysbysu’r partïon, a phob person â buddiant y mae ei enw a’i gyfeiriad wedi eu hysbysu i’r tribiwnlys, o’r canlynol—

(a)     yr ymdrinnir â’r cais fel mater brys o dan y rheoliad hwn;

(b)     y rhesymau pam y mae’n ymddangos i’r tribiwnlys fod yr amgylchiadau eithriadol yn bodoli;

(c)     unrhyw ofyniad sydd i’w fodloni gan barti cyn y gwrandawiad; a

(d)     y dyddiad pan gynhelir y gwrandawiad llafar brys.

(5) Ni chaiff dyddiad y gwrandawiad fod yn llai na 4 diwrnod, nac yn fwy na 10 niwrnod, ar ôl y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad o’r gwrandawiad llafar brys.

(6) Yn y gwrandawiad llafar brys, rhaid i’r tribiwnlys—

(a)     os bodlonir y tribiwnlys, ar ôl clywed tystiolaeth, fod yr amgylchiadau eithriadol yn bodoli, penderfynu’r cais; neu

(b)     os na fodlonir y tribiwnlys felly—

                           (i)    gohirio’r gwrandawiad ar ôl ei gychwyn; a

                         (ii)    rhoi pa bynnag gyfarwyddydau y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(7) Caiff aelod cymwysedig unigol o’r panel—

(a)     arfer y pŵer a roddir gan baragraff (2); a

(b)     penderfynu dyddiad y gwrandawiad llafar brys.

(8) Pan fo’r tribiwnlys yn gorchymyn cynnal gwrandawiad llafar brys o dan baragraff (2), nid yw’r darpariaethau hysbysu a gynhwysir yn y rheoliadau a ganlyn yn gymwys i’r cais—

(a)     rheoliad 23(5) (hysbysu ynghylch arolygiad); a

(b)     rheoliad 27(2) a (4) (hysbysu ynghylch gwrandawiad).

Ceisiadau o dan Ddeddf 2013 mewn perthynas ag effaith andwyol cartrefi symudol ar amwynder y safle

11.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan wneir cais gan berchennog safle am benderfyniad gan dribiwnlys o dan baragraff 7(1)(a) o Bennod 2, neu baragraff 40(1)(a) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 fod cartref symudol, o ystyried ei gyflwr, yn cael effaith andwyol ar amwynder y safle.

(2) Pan fo’r tribiwnlys, yn ystod gwrandawiad, yn ystyried bod y cartref symudol yn cael effaith niweidiol ar amwynder y safle, ond y byddai’r cartref symudol yn peidio â chael effaith andwyol o’r fath pe gwneid gwaith trwsio penodol i’r cartref symudol, rhaid iddo—

(a)     rhoi gwybod i berchennog y safle a’r meddiannydd pa waith trwsio y mae’r tribiwnlys yn ystyried y dylid ei wneud;

(b)     gwahodd meddiannydd y cartref symudol a pherchennog y safle i ddynodi, mewn perthynas â’r gwaith trwsio hwn—

                           (i)    yr amser y byddai ei angen i’w wneud; a

                         (ii)    y gost o’i wneud; ac

(c)     gwahodd meddiannydd y cartref symudol i ddynodi a fyddai’n fodlon gwneud y gwaith trwsio hwnnw ai peidio.

(3) Rhaid i’r tribiwnlys, gan ystyried unrhyw ddynodiadau a roddir o dan baragraff (2)(b) ac (c), naill ai—

(a)     gwneud penderfyniad o dan baragraff 7(1)(a) o Bennod 2, neu baragraff 40(1)(a) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013; neu

(b)     pan fo paragraff 7(3) o Bennod 2, neu baragraff 40(3) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys, gwneud gorchymyn interim sy’n ei gwneud yn ofynnol bod meddiannydd y cartref symudol yn gwneud y cyfryw waith trwsio o fewn y cyfryw amser a ystyrir yn rhesymol gan y tribiwnlys.

(4) Pan fo’r tribiwnlys yn gwneud gorchymyn interim o dan baragraff (3)(b), rhaid iddo ohirio’r gwrandawiad ar ôl ei gychwyn a phennu’r dyddiad ar gyfer gwrandawiad newydd, na chaiff fod yn ddiweddarach na 7 niwrnod ar ôl y dyddiad a bennir yn y gorchymyn fel y dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y gwaith trwsio.

(5) Wrth bennu dyddiad ar gyfer gwrandawiad newydd o dan baragraff (4), rhaid i’r tribiwnlys—

(a)     rhoi i’r partïon ddim llai na 14 o ddiwrnodau o rybudd ysgrifenedig o ddyddiad y gwrandawiad; a

(b)     gwahodd perchennog y safle a’r meddiannydd i ddynodi, yn ddim hwyrach na 4 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad newydd, pa un a yw’r gwaith trwsio a ddisgrifir yn y gorchymyn (yn eu barn hwy) wedi ei gwblhau ai peidio.

(6) Yn y gwrandawiad newydd—

(a)     os yw’r tribiwnlys wedi ei hysbysu, gan feddiannydd y cartref symudol a hefyd gan berchennog y safle, fod y gwaith trwsio a orchmynnwyd o dan baragraff (3)(b) wedi ei gwblhau, rhaid i’r tribiwnlys wrthod y cais;

(b)     os nad yw’r tribiwnlys wedi ei hysbysu felly, rhaid iddo wahodd unrhyw barti sy’n bresennol i gyflwyno unrhyw sylwadau pellach ynghylch maint y gwaith trwsio sy’n aros heb ei wneud a’r amser y byddai ei angen i’w wneud; ac

(c)     ar ôl ystyried unrhyw sylwadau o’r fath, rhaid i’r tribiwnlys naill ai gwneud gorchymyn interim pellach o dan baragraff (3)(b) o’r rheoliad hwn neu wneud penderfyniad o dan baragraff 7(1)(a) o Bennod 2, neu baragraff 40(1)(a) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013.

Cais gan berson am gael ei drin fel ceisydd neu ymatebydd

12.(1)(1) Caiff person (“y parti posibl”) wneud cais i’r tribiwnlys am gael ymuno fel parti i’r achos.

(2) Yn achos unrhyw gais am gael ymuno o dan baragraff (1)—

(a)     caniateir ei wneud heb roi rhybudd;

(b)     rhaid iddo fod mewn ysgrifen;

(c)     rhaid iddo roi rhesymau dros wneud y cais am gael ymuno; a

(d)     rhaid iddo bennu pa un a yw’r parti posibl yn dymuno cael ei drin—

                           (i)    fel ceisydd; neu

                         (ii)    fel ymatebydd.

(3) Caiff tribiwnlys wrthod cais am gael ymuno o dan baragraff (1) pan na fodlonir y tribiwnlys fod y parti posibl yn berson â buddiant neu’n berson sydd â buddiant digonol yng nghanlyniad yr achos.

(4) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl dod i’w benderfyniad naill ai i ganiatáu neu i wrthod cais am gael ymuno o dan baragraff (1), rhaid i’r tribiwnlys—

(a)     hysbysu’r parti posibl ynghylch y penderfyniad a’r rhesymau drosto; a

(b)     anfon copi o’r hysbysiad at y partïon a oedd eisoes wedi eu cynnwys yn yr achos.

(5) Rhaid trin unrhyw barti posibl, y caniateir ei gais am gael ymuno o dan baragraff (1), fel ceisydd neu ymatebydd at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(6) Yn y Rheoliadau hyn, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at geisydd neu ymatebydd fel pe bai’n cynnwys person a drinnir felly o dan y rheoliad hwn, a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at barti fel pe bai’n cynnwys unrhyw berson o’r fath.

(7) Caiff aelod cymwysedig unigol o’r panel ganiatáu neu wrthod cais am gael ymuno o dan baragraff (1).

Penderfynu ceisiadau ar y cyd

13.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo ceisiadau, sydd wedi eu gwneud ar wahân, ym marn y tribiwnlys—

(a)     yn achos ceisiadau a wnaed o dan Ddeddf 2004—

                           (i)    yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â’r un fangre; neu

                         (ii)    wedi eu gwneud mewn cysylltiad â dwy neu ragor o fangreoedd sydd â’r un person yn rheoli pob un o’r mangreoedd hynny, a’r un ATLl naill ai’n geisydd neu’n ymatebydd mewn cysylltiad â phob un o’r mangreoedd hynny;

(b)     yn achos ceisiadau a wnaed o dan Ddeddf 2013—

                           (i)    yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â’r un safle gwarchodedig; neu

                         (ii)    wedi eu gwneud mewn cysylltiad â dau neu ragor o safleoedd gwarchodedig sydd â’r un perchennog safle;

(c)     yn achos ceisiadau a wnaed o dan Ddeddf 2014—

                           (i)    yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â’r un landlord;

                         (ii)    yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â’r un annedd; neu

                       (iii)    yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â’r un asiant sydd wedi ei drwyddedu o dan adran 9 neu adran 11 o Ddeddf 2014;

(d)     yn achos ceisiadau a wnaed o dan Ddeddf 2015 yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â’r un asiant gosod.

(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, caiff y tribiwnlys orchymyn bod—

(a)     rhai neu bob un o’r ceisiadau hynny; neu

(b)     materion neu ystyriaethau penodol sy’n codi yn y ceisiadau hynny,

i gael eu penderfynu ar y cyd.

(3) Caiff aelod cymwysedig unigol o’r panel arfer y pŵer a roddir gan baragraff (2).

Talu ffioedd

14. Pan nad yw ffi sy’n daladwy o dan Ran 3 o’r Rheoliadau hyn wedi ei thalu o fewn cyfnod o 14 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cafwyd y cais, bernir bod y cais wedi ei dynnu’n ôl oni fodlonir y tribiwnlys fod sail resymol dros beidio â gwneud hynny.

Cynrychiolwyr

15.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn—

(a)     yn gymwys pan fo parti, person â buddiant, neu gynrychiolydd parti neu berson â buddiant, yn gwneud cais ysgrifenedig i’r tribiwnlys am gyflenwi gwybodaeth neu ddogfennau i gynrychiolydd parti neu berson â buddiant, ond

(b)     mae’n peidio â bod yn gymwys pan fo’r tribiwnlys yn cael hysbysiad ysgrifenedig bod y cynrychiolydd wedi peidio â chynrychioli’r parti neu’r person â buddiant hwnnw.

(2) Rhaid i gais am gyflenwi gwybodaeth neu ddogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) gynnwys enw a chyfeiriad y cynrychiolydd.

(3) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, bodlonir unrhyw ddyletswydd sydd ar y tribiwnlys o dan y Rheoliadau hyn i gyflenwi unrhyw wybodaeth neu ddogfen i’r parti neu’r person â buddiant drwy anfon yr wybodaeth neu’r ddogfen at y cynrychiolydd, neu drwy roi’r wybodaeth neu’r ddogfen iddo.

Cyflenwi gwybodaeth a dogfennau i bersonau â buddiant

16.(1)(1) Pan hysbysir y tribiwnlys o enw a chyfeiriad person â buddiant, rhaid iddo sicrhau cyn gynted ag y bo’n ymarferol y cyflenwir i’r person hwnnw—

(a)     copi o’r cais;

(b)     esboniad o’r weithdrefn ar gyfer gwneud cais am gael ymuno fel ceisydd neu ymatebydd; ac

(c)     unrhyw wybodaeth neu ddogfen arall y mae’r tribiwnlys yn ystyried ei bod yn briodol.

(2) Caiff y tribiwnlys sicrhau y cyflenwir yr wybodaeth neu’r dogfennau o dan baragraff (1) drwy—

(a)     cyflenwi’r wybodaeth neu’r dogfennau i’r person â buddiant;

(b)     cyflenwi’r wybodaeth neu’r dogfennau i gynrychiolydd y person â buddiant; neu

(c)     ei gwneud yn ofynnol, drwy orchymyn a wneir o dan reoliad 22, fod parti yn cyflenwi’r wybodaeth neu’r dogfennau i’r person â buddiant, neu i gynrychiolydd y person â buddiant.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4)—

(a)     os cyflenwir gwybodaeth a dogfennau i berson â buddiant yn unol â pharagraff (1); a

(b)     os caiff y tribiwnlys gais gan y person â buddiant hwnnw, i barhau i gyflenwi gwybodaeth a dogfennau i’r person â buddiant,

rhaid i’r tribiwnlys barhau i sicrhau y cyflenwir i’r person â buddiant hwnnw unrhyw wybodaeth neu ddogfen ynglŷn â’r mater y mae’r achos yn ymwneud ag ef a ystyrir yn briodol gan y tribiwnlys.

(4) Bydd y ddyletswydd ar y tribiwnlys o dan baragraff (3) yn dod i ben os yw’r person â buddiant yn ymuno fel parti yn yr achos o dan reoliad 12, neu os yw’r person â buddiant yn rhoi hysbysiad nad yw bellach yn dymuno cael yr wybodaeth neu’r dogfennau.

Cyflenwi dogfennau gan dribiwnlys

17.(1)(1) Cyn penderfynu ynghylch cais, rhaid i’r tribiwnlys gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y cyflenwir i bob un o’r partïon—

(a)     copi o unrhyw ddogfen sy’n berthnasol i’r achos (neu ddigon o ddarnau o’r ddogfen, neu ddigon o fanylion amdani) a gafwyd gan unrhyw barti arall neu berson â buddiant (ac eithrio dogfen sydd eisoes ym meddiant y parti hwnnw, neu ddogfen y cyflenwyd copi ohoni iddo’n flaenorol); a

(b)     copi o unrhyw ddogfen sy’n cynnwys canlyniadau unrhyw ymholiadau perthnasol a wnaethpwyd gan y tribiwnlys, neu ar ei gyfer, at ddibenion yr achos.

(2) Mewn gwrandawiad, os nad yw parti eisoes wedi cael dogfen berthnasol neu gopi ohoni, neu ddigon o ddarnau o ddogfen berthnasol neu ddigon o fanylion amdani, yna oni bai—

(a)     bod y person hwnnw yn cydsynio i’r gwrandawiad barhau; neu

(b)     bod y tribiwnlys yn ystyried bod gan y person hwnnw gyfle digonol i ymdrin â’r materion y mae’r ddogfen yn ymwneud â hwy heb ohirio’r gwrandawiad ar ôl ei gychwyn,

rhaid i’r tribiwnlys ohirio’r gwrandawiad ar ôl ei gychwyn am gyfnod y mae’n ystyried fydd yn rhoi cyfle digonol i’r person hwnnw ymdrin â’r materion hynny.

Cyflenwi gwybodaeth a dogfennau gan bartïon

18.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol bod parti’n cyflenwi i’r tribiwnlys unrhyw wybodaeth neu ddogfen y mae o fewn pŵer y parti hwnnw i’w cyflenwi, ac a bennir, neu sydd o ddisgrifiad a bennir, yn y gorchymyn.

(2) Caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol bod parti’n cyflenwi i barti arall, neu i berson â buddiant, gopïau o unrhyw ddogfennau a gyflenwyd, neu sydd i’w cyflenwi, i’r tribiwnlys o dan baragraff (1).

(3) Rhaid i barti sy’n ddarostyngedig i orchymyn a wnaed o dan baragraff (1) neu (2) gyflenwi’r cyfryw wybodaeth, dogfennau neu gopïau erbyn pa bynnag amser a bennir yn y gorchymyn neu a benderfynir yn unol â’r gorchymyn.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn bresennol mewn gwrandawiad llafar, i roi tystiolaeth ac i ddangos unrhyw ddogfennau a bennir yn y gorchymyn, neu sydd o ddisgrifiad a bennir yn y gorchymyn, ac sydd o fewn pŵer y person hwnnw i’w dangos.

(5) Nid yw paragraffau (1) a (4) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddogfen na ellid gorfodi person i’w dangos mewn treial o achos mewn llys barn yng Nghymru a Lloegr.

(6) Caiff aelod cymwysedig unigol o’r panel wneud gorchymyn o dan baragraff (1), (2) neu (4) sydd—

(a)     yn rhagarweiniol i wrandawiad llafar; neu

(b)     yn rhagarweiniol i benderfyniad, neu’n gysylltiedig â phenderfyniad.

Methiant i gydymffurfio â gorchymyn i gyflenwi gwybodaeth a dogfennau

19. Pan fo parti wedi methu â chydymffurfio â gorchymyn a wnaed o dan reoliad 18(1), (2) neu (4), caiff y tribiwnlys—

(a)     dod i ba bynnag gasgliadau y mae’r tribiwnlys yn meddwl sy’n briodol; neu

(b)     gwneud gorchymyn sy’n gwrthod neu’n caniatáu’r cais cyfan neu ran ohono.

Penderfynu heb wrandawiad

20.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (7) caiff y tribiwnlys benderfynu cais heb wrandawiad llafar os bydd wedi hysbysu’r partïon mewn ysgrifen, ddim llai na 14 o ddiwrnodau ymlaen llaw, o’i fwriad i wneud hynny.

(2) Ar unrhyw adeg cyn penderfynu’r cais—

(a)     caiff y ceisydd neu’r ymatebydd ofyn am wrandawiad llafar; neu

(b)     caiff y tribiwnlys hysbysu’r partïon ei fod yn bwriadu cynnal gwrandawiad llafar.

(3) Pan wneir cais am wrandawiad llafar neu pan roddir hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid i’r tribiwnlys roi hysbysiad ynghylch gwrandawiad yn unol â rheoliad 27.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caniateir gwneud penderfyniad heb wrandawiad llafar yn absenoldeb unrhyw sylwadau gan yr ymatebydd.

(5) Mewn cysylltiad â chais a wneir o dan baragraffau 5, 6, 7 neu 14 o Bennod 2, neu baragraffau 38, 39, 40 neu 44 o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013, ni chaniateir gwneud penderfyniad heb wrandawiad llafar ac eithrio—

(a)     pan fo’r ymatebydd wedi hysbysu’r tribiwnlys nad yw’r ymatebydd yn gwrthwynebu’r cais; neu

(b)     pan fo’r partïon i gyd wedi hysbysu’r tribiwnlys eu bod yn cydsynio i’r cais gael ei benderfynu heb wrandawiad.

(6) Caiff aelod cymwysedig unigol o’r panel benderfynu pa un a yw gwrandawiad llafar yn briodol ai peidio ar gyfer penderfynu cais.

(7) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i gais y mae rheoliad 10 (ceisiadau brys am awdurdodiad GRhI) yn gymwys iddo.

Gorchmynion interim

21.(1)(1) Caiff tribiwnlys wneud gorchymyn ar sail interim (“gorchymyn interim”) sydd—

(a)     yn atal dros dro, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, effaith unrhyw benderfyniad, hysbysiad, gorchymyn neu drwydded sy’n destun achos ger ei fron; neu

(b)     yn caniatáu am y tro unrhyw rwymedi y byddai gan y tribiwnlys bŵer i’w ganiatáu yn ei benderfyniad terfynol.

(2) Pan fo’r tribiwnlys yn gwneud gorchymyn interim heb yn gyntaf roi cyfle i’r partïon gyflwyno sylwadau ynghylch gwneud y gorchymyn, caiff parti ofyn am i’r gorchymyn interim gael ei amrywio neu ei roi o’r neilltu.

(3) Caniateir gwneud unrhyw gais o’r fath am amrywio neu neilltuo—

(a)     ar lafar mewn gwrandawiad;

(b)     mewn ysgrifen; neu

(c)     drwy ba ddull bynnag arall a ganiateir gan y tribiwnlys.

(4) Rhaid i’r tribiwnlys, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn interim, ddarparu i bob un o’r partïon hysbysiad yn nodi’r gorchymyn, a rhaid i’r hysbysiad, ac eithrio yn achos gorchymyn a wneir gyda chydsyniad pob un o’r partïon, roi’r rhesymau dros y penderfyniad i wneud y gorchymyn.

(5) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i gais y mae rheoliad 10 (ceisiadau brys am awdurdodiad GRhI) yn gymwys iddo.

Cyfarwyddydau

22.(1)(1) Caiff parti ofyn i’r tribiwnlys roi cyfarwyddyd drwy wneud gorchymyn o dan ei bŵer cyffredinol yn adran 230(2) o Ddeddf 2004.

(2) Caiff parti y cyfeirir cyfarwyddyd gweithdrefnol ato ofyn i’r tribiwnlys amrywio’r cyfarwyddyd neu ei roi o’r neilltu.

(3) Caniateir gwneud cais o’r fath y cyfeirir ato ym mharagraff (1) neu (2)—

(a)     ar lafar mewn cynhadledd rheoli achos neu wrandawiad;

(b)     mewn ysgrifen; neu

(c)     drwy ba ddull bynnag arall a ganiateir gan y tribiwnlys.

(4) Rhaid i barti sy’n gwneud cais am gyfarwyddyd o dan baragraff (1) bennu pa gyfarwyddydau gweithdrefnol a geisir a’r rhesymau dros eu ceisio.

(5) Caiff aelod cymwysedig unigol o’r panel roi cyfarwyddyd gweithdrefnol ynglŷn ag unrhyw fater sydd—

(a)     yn rhagarweiniol i wrandawiad llafar; neu

(b)     yn rhagarweiniol i benderfyniad, neu’n gysylltiedig â phenderfyniad.

(6) Ym mharagraffau (2), (4) a (5) ystyr “cyfarwyddyd gweithdrefnol” (“procedural direction) yw unrhyw gyfarwyddyd ac eithrio cyfarwyddyd a nodir ym mharagraffau (a) i (e) o adran 230(5) neu baragraffau (a) i (d) o adran 230(5A) o Ddeddf 2004.

Arolygu mangreoedd a’u cyffiniau

23.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) caiff y tribiwnlys arolygu—

(a)     y fangre;

(b)     unrhyw fangre arall y gallai ei harolygu gynorthwyo’r tribiwnlys i benderfynu’r cais;

(c)     yr ardal o amgylch y fangre.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r tribiwnlys roi cyfle i’r partïon fod yn bresennol mewn arolygiad.

(3) Mae cynnal arolygiad, a bod yn bresennol mewn arolygiad, yn amodol ar sicrhau unrhyw gydsyniad sy’n angenrheidiol.

(4) Pan gynhelir gwrandawiad llafar, caniateir cynnal arolygiad cyn, yn ystod, neu ar ôl y gwrandawiad.

(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i’r tribiwnlys roi i’r partïon ddim llai na 14 o ddiwrnodau o rybudd o ddyddiad, amser a lleoliad yr arolygiad.

(6) Caniateir hepgor neu liniaru’r gofyniad i roi rhybudd ym mharagraff (5) os bodlonir y tribiwnlys fod y partïon wedi cael rhybudd digonol.

(7) Pan gynhelir arolygiad ar ôl diwedd gwrandawiad llafar, caiff y tribiwnlys ailagor y gwrandawiad ar sail unrhyw fater sy’n codi o’r arolygiad, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol i’r partïon ynglŷn â dyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad a ailagorir.

(8) Pan fo cais i gael ei benderfynu gan aelod cymwysedig unigol o’r panel, caniateir i’r aelod hwnnw arfer swyddogaethau’r tribiwnlys o dan y rheoliad hwn.

Tystiolaeth arbenigol

24.(1)(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr “arbenigwr” (“expert”) yw arbenigwr annibynnol nad yw’n gyflogai i unrhyw un o’r partïon.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff parti roi tystiolaeth arbenigol, ac wrth wneud hynny rhaid iddo—

(a)     darparu i’r tribiwnlys grynodeb ysgrifenedig o’r dystiolaeth; a

(b)     yn ddarostyngedig i baragraff (5), cyflenwi copi o’r crynodeb ysgrifenedig hwnnw i bob parti arall o leiaf 7 niwrnod cyn—

                           (i)    dyddiad y gwrandawiad llafar perthnasol y rhoddwyd hysbysiad ohono mewn perthynas â’r cais o dan reoliad 27; neu

                         (ii)    y dyddiad a hysbyswyd o dan reoliad 20 fel y dyddiad pan benderfynir y cais heb wrandawiad llafar.

(3) Rhaid i grynodeb ysgrifenedig o dystiolaeth yr arbenigwr—

(a)     bod wedi ei gyfeirio at y tribiwnlys;

(b)     cynnwys manylion cymwysterau’r arbenigwr;

(c)     cynnwys crynodeb o’r cyfarwyddiadau a gafodd yr arbenigwr ar gyfer gwneud yr adroddiad; a

(d)     cynnwys datganiad bod yr arbenigwr yn deall y ddyletswydd sydd arno i gynorthwyo’r tribiwnlys ynglŷn â materion sydd o fewn ei arbenigedd, a’i fod wedi cydymffurfio â’r ddyletswydd honno, a bod y ddyletswydd honno’n drech nag unrhyw rwymedigaeth i’r person y cafodd yr arbenigwr ei gyfarwyddiadau ganddo neu sy’n ei gyflogi, neu sy’n talu iddo.

(4) Pan fo’r tribiwnlys, o dan ei bŵer cyffredinol yn adran 230(2) o Ddeddf 2004, yn rhoi cyfarwyddyd na chaiff parti roi tystiolaeth arbenigol heb ganiatâd y tribiwnlys, caiff bennu, fel amod ar y caniatâd hwnnw—

(a)     bod rhaid cyfyngu tystiolaeth yr arbenigwr i’r materion hynny a gyfarwyddir gan y tribiwnlys;

(b)     bod rhaid i’r arbenigwr fod yn bresennol mewn gwrandawiad i roi tystiolaeth lafar; neu

(c)     bod rhaid i’r partïon gyfarwyddo’r arbenigwr ar y cyd.

(5) Caniateir hepgor neu liniaru’r terfyn amser ym mharagraff (2)(b) os bodlonir y tribiwnlys fod y partïon wedi cael rhybudd digonol.

Cynhadledd rheoli achos

25.(1)(1) Caiff y tribiwnlys gynnal cynhadledd rheoli achos.

(2) Rhaid i’r tribiwnlys roi dim llai na 7 niwrnod o rybudd i’r partïon ynglŷn â dyddiad, amser a lleoliad y gynhadledd rheoli achos.

(3) Yn y gynhadledd rheoli achos, caiff y tribiwnlys orchymyn y partïon i gymryd pa bynnag gamau, neu wneud pa bynnag bethau y mae’n ymddangos i’r tribiwnlys eu bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol, er mwyn sicrhau y penderfynir y cais mewn modd cyfiawn, prydlon a darbodus.

(4) Caiff y tribiwnlys ohirio cynnal cynhadledd rheoli achos, neu ei gohirio ar ôl ei chychwyn.

(5) Caiff parti gael ei gynrychioli mewn cynhadledd rheoli achos.

(6) Caiff aelod cymwysedig unigol o’r panel arfer y pŵer a roddir gan baragraff (1), (3) neu (4).

Pwerau rheoli achos eraill

26.(1)(1) Caiff y tribiwnlys—

(a)     cwtogi’r amser a bennir gan neu o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer cyflawni unrhyw weithred, pan fo pob un o’r partïon yn cytuno i’r cwtogiad sydd dan sylw;

(b)     estyn yr amser a bennir gan neu o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer cyflawni unrhyw weithred, hyd yn oed os yw’r amser a bennwyd wedi dod i ben—

                           (i)    pan na fyddai’n rhesymol disgwyl i’r person o dan sylw gydymffurfio, neu fod wedi cydymffurfio, o fewn yr amser hwnnw; neu

                         (ii)    pe bai peidio ag estyn yr amser yn arwain at anghyfiawnder sylweddol;

(c)     caniatáu defnyddio teleffon, cyswllt fideo, neu unrhyw ddull cyfathrebu arall—

                           (i)    i gyflwyno sylwadau gerbron y tribiwnlys; neu

                         (ii)    at ddibenion cynhadledd rheoli achos neu wrandawiad;

(d)     ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sy’n rhoi tystiolaeth ysgrifenedig yn cynnwys gyda’r dystiolaeth honno ddatganiad llofnodedig bod y person yn credu bod y ffeithiau a ddatgenir yn y dystiolaeth yn wir;

(e)     cymryd unrhyw gam arall neu wneud unrhyw benderfyniad arall y mae’r tribiwnlys yn ystyried sy’n angenrheidiol neu’n ddymunol at y diben o reoli’r achos.

(2) Caiff y tribiwnlys arfer ei bwerau o dan y Rheoliadau hyn wrth ymateb i gais am iddo wneud hynny, neu ar ei ysgogiad ei hun.

(3) Caiff aelod cymwysedig unigol o’r panel arfer y pwerau o dan y rheoliad hwn ynglŷn ag unrhyw fater sy’n rhagarweiniol i—

(a)     gwrandawiad llafar; neu

(b)     penderfyniad sydd i’w wneud heb wrandawiad llafar.

Hysbysu ynghylch gwrandawiad

27.(1)(1) Rhaid i’r tribiwnlys hysbysu’r partïon am ddyddiad, amser a lleoliad unrhyw wrandawiad.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid rhoi hysbysiad ynghylch y gwrandawiad ddim llai nag 21 o ddiwrnodau cyn y dyddiad penodedig.

(3) Mewn amgylchiadau eithriadol caiff y tribiwnlys, heb gytundeb y partïon, roi llai nag 21 o ddiwrnodau o rybudd o ddyddiad, amser a lleoliad penodedig y gwrandawiad; ond rhaid rhoi hysbysiad o’r fath cyn gynted ag y bo’n ymarferol cyn y dyddiad penodedig, a rhaid i’r hysbysiad bennu beth yw’r amgylchiadau eithriadol.

(4) Caiff aelod cymwysedig unigol o’r panel arfer y pŵer ym mharagraff (3).

Gohirio gwrandawiad

28.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y tribiwnlys ohirio gwrandawiad llafar.

(2) Rhaid i’r tribiwnlys roi rhybudd rhesymol i’r partïon o’r amser a’r dyddiad pan gynhelir gwrandawiad gohiriedig.

(3) Pan fo un o’r partïon wedi gwneud cais am ohiriad, rhaid i’r tribiwnlys beidio â gohirio’r gwrandawiad onid yw’n ystyried y byddai’n rhesymol gwneud hynny, ar ôl rhoi sylw i’r canlynol—

(a)     y sail dros y cais am ohiriad;

(b)     yr adeg y gwneir y cais am ohiriad; ac

(c)     cyfleustra’r partïon.

(4) Caiff aelod cymwysedig unigol o’r panel arfer swyddogaethau’r tribiwnlys o dan y rheoliad hwn.

Y gwrandawiad

29.(1)(1) Mewn gwrandawiad—

(a)     rhaid i’r tribiwnlys (yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn) benderfynu ar weithdrefn y gwrandawiad a’r modd y’i cynhelir;

(b)     caiff unrhyw berson sy’n ymddangos gerbron y tribiwnlys wneud hynny naill ai’n bersonol neu drwy gynrychiolydd;

(c)     mae hawl gan y partïon—

                           (i)    i roi tystiolaeth berthnasol;

                         (ii)    i alw tystion;

                       (iii)    i holi unrhyw dyst; a

                        (iv)    i annerch y tribiwnlys ynglŷn â’r dystiolaeth a’r gyfraith ac yn gyffredinol ar bwnc y cais; a

(d)     caiff y tribiwnlys gymryd tystiolaeth o unrhyw ffaith neu unrhyw farn y mae’n ymddangos ei bod yn berthnasol, hyd yn oed os na fyddai’r dystiolaeth neu’r farn honno’n dderbyniadwy mewn achos gerbron llys barn, ac ni chaiff y tribiwnlys wrthod cymryd unrhyw dystiolaeth neu farn a gyflwynir mewn da bryd os yw’n dderbyniadwy o dan y gyfraith ac yn berthnasol ac yn angenrheidiol, ac os nad yw wedi ei chael mewn ffordd amhriodol.

(2) Mewn gwrandawiad, caiff y tribiwnlys ganiatáu i barti ddibynnu ar resymau nas datganwyd o’r blaen ac ar dystiolaeth nad oedd ar gael o’r blaen neu nas rhoddwyd o’r blaen, os yw wedi ei fodloni ei bod yn gyfiawn ac yn rhesymol gwneud hynny.

(3) Caiff y tribiwnlys ohirio gwrandawiad ar ôl ei gychwyn, ond os gwneir hynny ar gais un o’r partïon, rhaid i’r tribiwnlys ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny ar ôl rhoi sylw i’r canlynol—

(a)     y sail dros y cais am ohiriad;

(b)     yr adeg y gwneir y cais am ohiriad; ac

(c)     cyfleustra’r partïon.

Gwrandawiad cyhoeddus neu breifat

30.(1)(1) Rhaid i wrandawiad fod yn gyhoeddus ac eithrio pan fodlonir y tribiwnlys, yn amgylchiadau’r achos ac yn ddarostyngedig i’r prif amcan a ddisgrifir yn rheoliad 3, y dylid cynnal y gwrandawiad yn breifat.

(2) Caiff y tribiwnlys benderfynu o dan baragraff (1)—

(a)     bod rhaid cynnal rhan yn unig o’r gwrandawiad yn breifat; neu

(b)     bod rhaid peidio â chyhoeddi unrhyw un neu ragor o’r materion a ganlyn—

                           (i)    gwybodaeth am yr achos sydd gerbron y tribiwnlys;

                         (ii)    enwau a manylion adnabod personau sy’n ymwneud â’r achos; neu

                       (iii)    tystiolaeth benodedig a roddir yn yr achos.

Personau sydd â hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat

31.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae gan y personau a ganlyn hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat ac i fod yn bresennol yn ystod trafodaethau’r tribiwnlys mewn cysylltiad â phenderfynu ar y cais—

(a)     llywydd neu gadeirydd neu aelod arall o’r panel, nad yw’n rhan o’r tribiwnlys at ddiben y gwrandawiad;

(b)     staff y tribiwnlys;

(c)     unrhyw berson arall a ganiateir gan y tribiwnlys, gyda chydsyniad y partïon.

(2) Ni chaiff yr un o’r personau a bennir ym mharagraff (1) gymryd unrhyw ran yn y gwrandawiad nac yn y cyfryw drafodaethau.

(3) Caiff y tribiwnlys ganiatáu i bersonau fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat ar ba bynnag delerau ac amodau y mae’r tribiwnlys yn ystyried eu bod yn briodol.

Methiant parti i ymddangos mewn gwrandawiad

32. Pan fo parti yn methu ag ymddangos mewn gwrandawiad, caiff y tribiwnlys fynd ymlaen â’r gwrandawiad—

(a)     os yw’r tribiwnlys wedi ei fodloni bod y parti hwnnw wedi ei hysbysu ynghylch y gwrandawiad yn unol â’r Rheoliadau hyn; a

(b)     os nad yw’r tribiwnlys wedi ei fodloni bod rheswm da pam y methodd ag ymddangos.

Penderfyniadau tribiwnlys wrth ddyfarnu ynghylch ceisiadau

33.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i benderfyniad sy’n dyfarnu ynghylch cais.

(2) Os cynhelir gwrandawiad, caniateir cyhoeddi’r penderfyniad ar lafar ar ddiwedd y gwrandawiad.

(3) Rhaid i’r tribiwnlys, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad sy’n dyfarnu’n derfynol ynglŷn â chais, ddarparu i bob un o’r partïon hysbysiad sy’n datgan penderfyniad y tribiwnlys (“dogfen penderfyniad”).

(4) Rhaid i’r ddogfen penderfyniad—

(a)     bod wedi ei llofnodi a’i dyddio gan berson priodol;

(b)     nodi—

                           (i)    y penderfyniad a wnaed gan y tribiwnlys;

                         (ii)    y rhesymau dros ddod i’r penderfyniad hwnnw;

                       (iii)    dyddiad y penderfyniad;

                        (iv)    unrhyw gamau y mae’n rhaid i unrhyw barti yn yr achos eu cymryd, ac erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid cymryd y camau hynny; ac

(c)     rhoi esboniad o hawl parti i apelio yn erbyn y penderfyniad.

(5) Caiff person priodol, drwy gyfrwng tystysgrif wedi ei llofnodi a’i dyddio gan y person priodol, gywiro unrhyw wallau clerigol mewn dogfen penderfyniad neu unrhyw wallau neu amwyseddau sy’n digwydd ynddi oherwydd llithriad neu hepgoriad damweiniol.

(6) Rhaid anfon copi at bob un o’r partïon, o unrhyw gywiriad a ardystir o dan baragraff (5).

(7) Yn y rheoliad hwn ystyr “person priodol” (appropriate person) yw—

(a)     Cadeirydd y tribiwnlys; neu

(b)     os yw Cadeirydd y tribiwnlys yn absennol neu’n analluog, aelod arall o’r tribiwnlys.

Penderfynu ynghylch costau

34.(1)(1) Rhaid i’r tribiwnlys beidio â gwneud penderfyniad o dan baragraff 12 o Atodlen 13 i Ddeddf 2004 mewn cysylltiad â pharti heb yn gyntaf roi cyfle i’r parti hwnnw gyflwyno sylwadau i’r tribiwnlys.

(2) Pan benderfynir cais gan aelod cymwysedig unigol o’r panel, caiff yr aelod hwnnw wneud penderfyniad ynghylch costau, mewn cysylltiad â pharti i’r achos, ynghylch y cais.

(3) Mewn cysylltiad â chais i’r tribiwnlys o dan Ddeddf 2013 neu’r Rheoliadau Rheolau Safle, ni chaiff y swm y caniateir gorchymyn i barti mewn achos ei dalu yn yr achos, drwy benderfyniad a wneir o dan baragraff 12 o Atodlen 13 i Ddeddf 2004, fod yn fwy na £10,000.

Tynnu cais yn ôl

35.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff ceisydd (“y parti sy’n tynnu’n ôl”) (“the withdrawing party) dynnu’n ôl y cyfan neu ran o’r cais a wnaed gan y ceisydd, yn unol â pharagraff (2)—

(a)     ar unrhyw adeg cyn i dribiwnlys ddechrau ystyried y dystiolaeth ynglŷn â’r cais (pa un ai mewn gwrandawiad llafar ai peidio); a

(b)     ar unrhyw adeg wedi i’r tribiwnlys ddechrau ystyried y dystiolaeth ynglŷn â’r cais (pa un ai mewn gwrandawiad llafar ai peidio), ar yr amod—

                           (i)    y bodlonir y tribiwnlys fod y partïon eraill i’r cais yn cydsynio â thynnu’r cais yn ôl; a

                         (ii)    bod y tribiwnlys yn cydsynio â thynnu’r cais yn ôl.

(2) Rhaid i’r parti sy’n tynnu’n ôl hysbysu ei fod yn tynnu’r cais yn ôl drwy gyflenwi i’r tribiwnlys hysbysiad wedi ei lofnodi a’i ddyddio, sy’n—

(a)     rhoi manylion digonol i alluogi adnabod y cais neu’r rhan o’r cais a dynnir yn ôl;

(b)     datgan a oes unrhyw ran o’r cais yn weddill ac eto i’w benderfynu, ac os felly, pa ran; ac

(c)     cadarnhau bod copi o’r hysbysiad bod y cais wedi ei dynnu’n ôl wedi ei gyflenwi i bob un o’r partïon eraill, ac yn datgan y dyddiad y gwnaed hynny.

(3) Os bydd unrhyw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn bodoli, ni fydd tynnu’r cais yn ôl yn cael effaith hyd nes y cyflawnir un o’r ffyrdd o weithredu ym mharagraff (6).

(4) Yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) yw—

(a)     bod y tribiwnlys wedi gwahodd y partïon yn yr achos—

                           (i)    i gyflwyno sylwadau i’r tribiwnlys ynglŷn ag a ddylid gwneud ad-daliad i unrhyw barti ar ffurf digollediad, iawndal, costau neu ad-daliad ffioedd; a

                         (ii)    i ymateb i unrhyw sylwadau a gafwyd gan y tribiwnlys o dan baragraff (i);

ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a wnaed i’r tribiwnlys gan unrhyw barti o dan yr is-baragraff hwn, bod y tribiwnlys wedi gwneud pa bynnag orchymyn, o ran talu digollediad, iawndal, costau neu ad-daliad ffioedd, y dylid ei wneud, ym marn resymol y tribiwnlys, ar ôl ystyried holl amgylchiadau’r achos;

(b)     bod gorchymyn interim er budd un o’r partïon wedi ei wneud; neu

(c)     bod parti wedi rhoi ymrwymiad i’r tribiwnlys.

(5) Wrth wahodd sylwadau gan y partïon o dan baragraff (4)(a), caiff y tribiwnlys roi cyfarwyddyd i’r partïon ynglŷn â’r amser a ganiateir ar gyfer darparu sylwadau o’r fath.

(6) Y ffyrdd o weithredu a grybwyllir ym mharagraff (3) yw—

(a)     bod y parti sy’n tynnu’n ôl wedi anfon at y tribiwnlys ddatganiad ysgrifenedig, a lofnodwyd gan bob un o’r partïon eraill, sy’n nodi’r modd yr ymdrinnir ag unrhyw orchymyn a wnaed o dan baragraff (4)(a), unrhyw orchymyn interim a wnaed o dan baragraff (4)(b) neu unrhyw ymrwymiad a roddwyd o dan baragraff (4)(c), sy’n gymwys i’r achos; neu

(b)     bod y parti sy’n tynnu’n ôl wedi rhoi hysbysiad o’r bwriad i dynnu’n ôl i bob un o’r partïon, ac—

                           (i)    bod y parti sy’n tynnu’n ôl wedi gofyn i’r tribiwnlys roi cyfarwyddydau ynghylch o dan ba amodau y caniateir tynnu’r cais yn ôl; a

                         (ii)    bod y tribiwnlys wedi rhoi cyfarwyddydau o’r fath.

(7) Wrth roi cyfarwyddydau o dan baragraff (6)(b)(ii) caiff y tribiwnlys osod pa bynnag amodau yr ystyria eu bod yn briodol.

(8) Caiff aelod cymwysedig unigol o’r panel wneud gorchymyn o dan baragraff (4)(b), neu roi cyfarwyddydau o dan baragraff (5) neu (6)(b)(ii).

Gorfodi

36. Caniateir gorfodi unrhyw benderfyniad gan y tribiwnlys, gyda chaniatâd y llys sirol, yn yr un modd ag y gorfodir gorchmynion gan lys o’r fath.

Caniatâd i apelio

37.(1)(1) Yn y rheoliad hwn ystyr “apelio” (“to appeal) yw gwneud apêl yn erbyn penderfyniad gan y tribiwnlys i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd) ac mae ystyr cyfatebol i “apelydd” (“appellant).

(2) Pan fo parti’n gwneud cais i’r tribiwnlys am ganiatâd i apelio, caiff wneud y cais hwnnw—

(a)     ar lafar yn y gwrandawiad lle cyhoeddir y penderfyniad gan y tribiwnlys; neu

(b)     yn ddiweddarach i swyddfa’r tribiwnlys, mewn ysgrifen.

(3) Rhaid gwneud cais am ganiatâd i apelio o fewn 21 o ddiwrnodau i’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o’r penderfyniad fel y dyddiad y rhoddwyd y penderfyniad.

(4) Pan wneir cais am ganiatâd i apelio mewn ysgrifen, rhaid i’r cais am ganiatâd gael ei lofnodi gan yr apelydd neu gynrychiolydd yr apelydd a rhaid iddo—

(a)     datgan enw a chyfeiriad yr apelydd ac enw a chyfeiriad unrhyw gynrychiolydd i’r apelydd;

(b)     nodi pa benderfyniad a pha dribiwnlys y mae’r cais am ganiatâd i apelio yn ymwneud â hwy; ac

(c)     datgan ar ba seiliau y mae’r apelydd yn bwriadu dibynnu yn yr apêl.

(5) Rhaid i’r tribiwnlys, o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n cychwyn gyda’r diwrnod y mae’r tribiwnlys yn cael y cais am ganiatâd i apelio—

(a)     anfon copi o’r cais am ganiatâd i apelio at y parti arall i’r cais, gan gynnwys unrhyw barti sydd â buddiant, sy’n destun y cais am ganiatâd i apelio; a

(b)     pan fo’r apelydd yn tynnu’r cais am ganiatâd i apelio yn ôl, rhoi gwybod i’r parti arall fod y cais am ganiatâd i apelio wedi ei dynnu’n ôl.

(6) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad ynghylch cais am ganiatâd i apelio, rhaid i’r tribiwnlys anfon hysbysiad, sy’n cynnwys rhesymau dros y penderfyniad, at yr apelydd ac at y partïon eraill i’r cais sy’n destun yr apêl.

(7) Rhaid trin dyfarniad neu orchymyn interim gan dribiwnlys o dan reoliad 11(3) fel penderfyniad y tribiwnlys at ddibenion y rheoliad hwn.

(8) Rhaid i benderfyniad o dan baragraff (6) gynnwys datganiad o unrhyw ddarpariaeth statudol, rheol neu ganllawiau perthnasol, mewn perthynas ag unrhyw gais pellach i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd) am ganiatâd i apelio, ac o’r amser a’r lle ar gyfer gwneud y cais pellach am ganiatâd neu ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl.

Cymorth i gyfranogwyr

38.(1)(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfranogwr” (“participant”) yw ceisydd neu barti neu dyst neu berson arall sy’n cymryd rhan mewn achos sy’n ymwneud â chais, neu y cyfeirir gorchymyn gan y tribiwnlys ato.

(2) Os yw cyfranogwr yn rhoi gwybod i’r tribiwnlys na all y cyfranogwr ddarllen, siarad na deall yr iaith Gymraeg na’r iaith Saesneg, rhaid i’r tribiwnlys wneud trefniadau i ddarparu i’r cyfranogwr, yn ddi-dâl, y cyfieithiadau a’r cymorth gan gyfieithydd ar y pryd, sy’n angenrheidiol i alluogi’r cyfranogwr i gymryd rhan effeithiol yn yr achos.

(3) Os yw cyfranogwr yn rhoi gwybod i’r tribiwnlys na all y cyfranogwr ddarllen Cymraeg na Saesneg oherwydd ei fod yn ddall neu’n rhannol ddall, dros dro neu’n barhaol, rhaid i’r tribiwnlys wneud trefniadau i ddarparu’r cymorth angenrheidiol i’r cyfranogwr hwnnw yn ddi-dâl (caiff hyn gynnwys darparu dogfennau mewn Braille neu brint bras, neu ddarllenwr dogfennau, ond nid yw’n gyfyngedig i hynny) i alluogi’r cyfranogwr i gymryd rhan effeithiol yn yr achos.

(4) Os yw cyfranogwr yn rhoi gwybod i’r tribiwnlys y gall y cyfranogwr siarad Cymraeg neu Saesneg, ond na all ddarllen nac ysgrifennu Cymraeg na Saesneg, rhaid i’r tribiwnlys ddarparu i’r cyfranogwr wasanaeth person ar gyfer darllen ac esbonio natur a chynnwys unrhyw ddogfennau, ac ysgrifennu unrhyw ddogfennau ar ran y cyfranogwr, fel y bo’n ofynnol yn rhesymol gan y cyfranogwr, er mwyn ei alluogi i gymryd rhan effeithiol yn yr achos.

(5) Nid yw’r gofyniad bod y tribiwnlys yn darparu i gyfranogwr wasanaeth person ar gyfer darllen, ysgrifennu neu esbonio natur a chynnwys dogfennau o dan baragraff (4) yn cynnwys gofyniad bod tribiwnlys yn rhoi unrhyw gyngor cyfreithiol, ond mae’n cynnwys gofyniad i esbonio’r camau gweithdrefnol yn yr achos.

(6) Os yw cyfranogwr yn analluog i glywed na siarad, rhaid i’r tribiwnlys wneud trefniadau i ddarparu i’r cyfranogwr hwnnw, yn ddi-dâl, wasanaeth dehonglydd iaith arwyddion, gwefuslefarydd neu balanteipydd, i alluogi’r cyfranogwr i gymryd rhan effeithiol yn yr achos.

(7) Mae gan gyfranogwr hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn pa un a gynrychiolir y cyfranogwr gan rywun arall ai peidio.

(8) Rhaid i gyfranogwr y mae arno angen cymorth o dan y rheoliad hwn ond sydd heb ei dderbyn, hysbysu’r tribiwnlys o’r angen hwnnw am gymorth cyn gynted ag y bo modd.

(9) Nid yw’r rheoliad hwn yn cyfyngu mewn unrhyw fodd ar brif amcan tribiwnlys fel y’i disgrifir yn rheoliad 3.

Gofynion ynghylch cyflenwi hysbysiadau a dogfennau

39.(1)(1) Bernir bod unrhyw ddogfen neu hysbysiad y mae’r Rheoliadau hyn yn awdurdodi neu’n ei gwneud yn ofynnol ei chyflenwi neu ei gyflenwi i unrhyw berson, corff neu awdurdod, wedi ei chyflenwi neu ei gyflenwi’n briodol i’r person, y corff neu’r awdurdod hwnnw—

(a)     os anfonir y ddogfen neu’r hysbysiad i gyfeiriad priodol y person, y corff neu’r awdurdod hwnnw drwy’r post dosbarth cyntaf, neu drwy ddanfoniad arbennig, neu drwy ddanfoniad cofnodedig;

(b)     os danfonir y ddogfen neu’r hysbysiad drwy unrhyw ddull arall i gyfeiriad priodol y person, y corff neu’r awdurdod hwnnw;

(c)     os, gyda chydsyniad ysgrifenedig y person, y corff neu’r awdurdod, anfonir y ddogfen neu’r hysbysiad at y person, y corff neu’r awdurdod hwnnw—

                           (i)    drwy ffacs, e-bost neu gyfathrebiad electronig arall sy’n cynhyrchu testun y gellir ei gael mewn ffurf ddarllenadwy; neu

                         (ii)    drwy wasanaeth danfon dogfennau preifat.

(2) Y cyfeiriad priodol at ddibenion paragraff (1) yw—

(a)     yn achos y tribiwnlys, cyfeiriad swyddfa’r tribiwnlys;

(b)     yn achos cwmni corfforedig neu gorff arall a gofrestrwyd yn y Deyrnas Unedig, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r cwmni neu’r corff;

(c)     yn achos unrhyw berson, corff neu awdurdod arall, ei gyfeiriad arferol neu ei gyfeiriad olaf sy’n hysbys.

(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)     yn achos derbynnydd arfaethedig dogfen neu hysbysiad—

                           (i)    na ellir dod o hyd iddo ar ôl gwneud pob ymholiad dyfal;

                         (ii)    a fu farw ac nad oes ganddo gynrychiolydd personol; neu

                       (iii)    sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig; neu

(b)     os, am unrhyw reswm arall, na ellir yn rhwydd gyflenwi hysbysiad neu ddogfen arall yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(4) Pan fo paragraff (3) yn gymwys, caiff y tribiwnlys—

(a)     hepgor cyflenwi’r hysbysiad neu’r ddogfen arall; neu

(b)     rhoi cyfarwyddydau ar gyfer dull amgen o gyflwyno, ym mha ffurf neu ddull bynnag arall (drwy hysbysebu mewn papur newydd neu fel arall) y mae’r tribiwnlys yn meddwl sy’n briodol.

(5) Pan fo’n ofynnol o dan Ddeddf 2004, Deddf 1985, Deddf 2013, Deddf 2014, Deddf 2015 neu’r Rheoliadau hyn, bod rhaid i barti ddarparu tystiolaeth ei fod wedi cyflenwi dogfen i unrhyw berson, caiff y parti fodloni’r gofyniad drwy ddarparu tystysgrif, wedi ei llofnodi gan y parti, yn cadarnhau bod y ddogfen wedi ei chyflwyno yn unol â gofynion y rheoliad hwn.

Amser

40.(1)(1) Pan fo’r amser a bennir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer cyflawni unrhyw weithred yn dod i ben ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul neu ar ŵyl gyhoeddus, ystyrir ei fod yn dod i ben ar y diwrnod dilynol nesaf nad yw’n ddydd Sadwrn neu’n ddydd Sul neu’n ŵyl gyhoeddus.

(2) Ystyr gŵyl gyhoeddus yw Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971.

Ceisiadau gwacsaw a blinderus etc.

41.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo’n ymddangos i’r tribiwnlys fod cais—

(a)     yn wacsaw;

(b)     yn flinderus; neu

(c)     yn camddefnyddio proses y tribiwnlys,

caiff y tribiwnlys wrthod y cais yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) pan fo’n ymddangos i’r tribiwnlys fod ceisydd wedi methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a ddyroddwyd gan y tribiwnlys mewn cysylltiad â chyflenwi neu ddarparu, datgelu neu arolygu gwybodaeth neu ddogfennau mewn cysylltiad â bod yn bresennol yn y tribiwnlys, caiff y tribiwnlys wrthod y cais yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

(3) Cyn gwrthod cais o dan baragraff (1), rhaid i’r tribiwnlys hysbysu’r ceisydd o’i fwriad i wneud hynny, yn unol â pharagraff (4).

(4) Rhaid i unrhyw hysbysiad o dan baragraff (3) ddatgan—

(a)     bod y tribiwnlys â’i fryd ar wrthod y cais;

(b)     ar ba sail y rhoddodd ei fryd ar wrthod y cais;

(c)     bod hawl gan y ceisydd i gael ei glywed gan y tribiwnlys ynglŷn â pha un a ddylid gwrthod y cais ai peidio; a

(d)     y dyddiad olaf erbyn pryd y caiff y ceisydd ofyn am gael ei glywed gan y tribiwnlys, sef dyddiad nad yw’n llai na 14 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad.

(5) Ni chaniateir gwrthod cais o dan baragraff (1) ac eithrio—

(a)     pan na fo’r ceisydd wedi gofyn i’r tribiwnlys, cyn y dyddiad a grybwyllir ym mharagraff (4)(c), am gael ei glywed gan y tribiwnlys; neu

(b)     pan fo’r ceisydd wedi gofyn am gael ei glywed gan y tribiwnlys, a’r tribiwnlys wedi clywed y ceisydd a’r ymatebydd, neu’r cyfryw rai ohonynt a oedd bresennol yn y gwrandawiad, ynglŷn â pha un a ddylid gwrthod y cais ai peidio.

(6) Ni chaiff y Tribiwnlys wrthod y cais yn gyfan gwbl neu’n rhannol o dan baragraff (2) heb roi cyfle yn gyntaf i’r ceisydd gyflwyno sylwadau mewn perthynas â’r gwrthodiad arfaethedig.

(7) Os caiff y cais, neu ran ohono, ei wrthod o dan baragraff (2), caiff y ceisydd wneud cais i’r cais, neu ran ohono, gael ei adfer.

Afreoleidd-dra

42. Ni fydd unrhyw afreoleidd-dra sy’n deillio o fethiant gan barti i gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, neu fethiant i gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd gan y tribiwnlys cyn bod y tribiwnlys wedi penderfynu’r cais yn peri, ohono’i hun, bod yr achos yn ddi-rym.

Llofnodi dogfennau

43. Pan fo’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol bod dogfen yn cael ei llofnodi, bodlonir y gofyniad hwnnw—

(a)     os yw’r llofnod naill ai wedi ei ysgrifennu neu wedi ei gynhyrchu gan gyfrifiadur neu drwy ddull mecanyddol arall; a

(b)     bod enw’r llofnodwr yn ymddangos o dan y llofnod mewn modd sy’n galluogi adnabod y llofnodwr.

RHAN 3

Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl

Ffioedd am geisiadau a wneir o dan Ddeddf 1985

44. Yn ddarostyngedig i reoliad 51(2), mae ffi o £155 yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1985—

(a)     adran 269(1) (gorchmynion dymchwel);

(b)     adran 318(1) (pŵer tribiwnlys i awdurdodi cyflawni gwaith ar fangre nad yw’n ffit neu waith ar gyfer gwella).

Ffioedd am geisiadau a wneir o dan Ddeddf 2004

45.(1)(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 51(2), mae ffi o £155 yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2004—

                           (i)    adran 22(9) (gwrthod cymeradwyo defnydd o fangre sy’n destun gorchymyn gwahardd);

                         (ii)    adran 62(7) (trwyddedu HMO: gwrthod caniatáu hysbysiad esemptio dros dro);

                       (iii)    adran 86(7) (trwyddedu detholus: gwrthod caniatáu hysbysiad esemptio dros dro);

                        (iv)    adran 126(4) (effaith gorchmynion rheoli: dodrefn);

                          (v)    adran 138 (digollediad sy’n daladwy i drydydd partïon);

                        (vi)    paragraff 10 o Atodlen 1 (hysbysiad gwella);

                      (vii)    paragraff 13 o Atodlen 1 (penderfyniad ATLl i amrywio, neu wrthod dirymu neu amrywio, hysbysiad gwella);

                    (viii)    paragraff 7 o Atodlen 2 (gorchymyn gwahardd);

                        (ix)    paragraff 9 o Atodlen 2 (penderfyniad ATLl i amrywio, neu wrthod dirymu neu amrywio, gorchymyn gwahardd);

                          (x)    paragraff 11 o Atodlen 3 (hysbysiad gwella: hawliad am adennill treuliau);

                        (xi)    paragraff 31 o Atodlen 5 (rhoi neu wrthod trwydded);

                      (xii)    paragraff 32 o Atodlen 5 (trwyddedu HMO: penderfyniad i amrywio neu ddirymu, neu wrthod amrywio neu ddirymu, trwydded);

                    (xiii)    paragraff 28 o Atodlen 6 (penderfyniad ATLl i amrywio neu ddirymu, neu wrthod amrywio neu ddirymu, gorchymyn rheoli);

                    (xiv)    paragraff 32 o Atodlen 6 (gorchymyn rheoli: digolledu trydydd parti);

                      (xv)    paragraff 26(1)(a) a (b) o Atodlen 7 (GRhAG terfynol);

                    (xvi)    paragraff 30 o Atodlen 7 (penderfyniad ATLl i amrywio neu ddirymu, neu wrthod amrywio neu ddirymu, GRhAG interim neu derfynol);

                  (xvii)    paragraff 34(2) o Atodlen 7 (GRhAG: digolledu trydydd parti).

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheoliad 51(2), mae ffi o £155 yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan baragraff 24 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 (gorchymyn rheoli interim a therfynol).

(3) Nid oes ffi yn daladwy pan wneir cais o dan is-baragraff (1)(b) o baragraff 24 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 ar y seiliau a nodir yn is-baragraff (3) o’r paragraff hwnnw.

Ffioedd am geisiadau a wneir o dan Ddeddf 2013

46.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) a rheoliad 51(2), mae ffi o £155 yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan reoliad 10 (hawl i apelio i dribiwnlys mewn perthynas â phenderfyniad y perchennog) a rheoliad 17 (hawl i apelio i dribiwnlys ynghylch adneuad) o’r Rheoliadau Rheolau Safle.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) a rheoliad 51(2), mae ffi yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2013—

(a)     adran 7(4)(b) (trwydded safle: gwrthod dyroddi);

(b)     adran 12(2) (amodau trwydded safle: apêl);

(c)     adran 14(1) (amrywio amodau trwydded safle: apêl);

(d)     adran 17(2) (hysbysiad cydymffurfio: apêl);

(e)     adran 21(9) (camau brys: apêl);

(f)      adran 22(7) (hawlio treuliau: apêl);

(g)     adran 28(2) (cais gan awdurdod lleol am ddirymu trwydded safle);

(h)     adran 29(6)(b) (person addas a phriodol);

(i)      adran 30(5) (rheolwr interim);

(j)      adran 33(4) (gorchymyn ad-dalu);

(k)     adran 49(5) (datganiad ysgrifenedig);

(l)      adran 50(2) neu (3) (telerau ymhlyg/datganedig mewn cytundeb safle);

(m)   adran 54 (awdurdodaeth tribiwnlys neu’r llys);

(n)     paragraffau 5, 6 neu 7 o Bennod 2, neu baragraffau 38, 39 neu 40(1) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 (terfynu);

(o)     paragraffau 10 neu 13 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 (gwerthu neu roi cartref symudol yn anrheg);

(p)     paragraffau 14 o Bennod 2, neu 44 o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 (ail-leoli cartref symudol); a

(q)     paragraff 42(8) o Bennod 4 o Ran 1 o Atodlen 2 (aseinio cytundeb).

(3) Y ffi sy’n daladwy am bob cais y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw—

(a)     pan fo’r cais yn cynnwys un cyfeiriad, £155;

(b)     pan fo’r cais yn cynnwys dau gyfeiriad, £205;

(c)     pan fo’r cais yn cynnwys tri neu bedwar cyfeiriad, £410;

(d)     pan fo’r cais yn cynnwys pum cyfeiriad neu ragor, £515.

(4) At ddibenion paragraff (3), nifer y cyfeiriadau sy’n gynwysedig mewn cais yw—

(a)     yn achos cais a wneir mewn cysylltiad ag un llain neu gartref symudol, nifer y darpariaethau yn Neddf 2013 y mae’r cais hwnnw’n ymwneud â hwy; a

(b)     yn achos cais a wneir mewn cysylltiad â mwy nag un llain neu gartref symudol, nifer y leiniau neu’r cartrefi symudol y mae’r cais yn ymwneud â hwy.

(5) Nid oes ffi yn daladwy i dribiwnlys mewn perthynas â chais a wnaed o dan Ddeddf 2013 ac sydd wedi ei drosglwyddo o lys i dribiwnlys.

Ffioedd am geisiadau a wneir o dan Ddeddf 2014

47. Yn ddarostyngedig i reoliad 51(2) mae ffi o £155 yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2014—

(a)     adran 17(4) (dirymu cofrestriad);

(b)     adran 27(1) (apelau trwyddedu);

(c)     adran 30 (gorchmynion atal rhent);

(d)     adran 32 (gorchmynion ad-dalu rhent).

Ffioedd am geisiadau a wneir o dan Ddeddf 2015

48. Yn ddarostyngedig i reoliad 51(2) mae ffi o £155 yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf 2015.

Talu ffioedd

49. Rhaid anfon unrhyw ffi sy’n daladwy o dan reoliad 44, 45, 46, 47 neu 48 gyda’r cais, a rhaid ei thalu gyda siec a wnaed yn daladwy i Weinidogion Cymru, neu gydag archeb bost a lanwyd er budd Gweinidogion Cymru.

Atebolrwydd i dalu ffi a hepgor ffioedd

50.(1)(1) Mae’r ceisydd yn atebol i dalu unrhyw ffi sy’n daladwy o dan reoliad 44, 45, 46, 47 neu 48.

(2) Nid oes ffi yn daladwy o dan reoliad 44, 45, 46, 47 na 48 pan fo’r ceisydd neu bartner y person hwnnw, ar y dyddiad y gwneir y cais, yn cael—

(a)     y naill neu’r llall o’r budd-daliadau a ganlyn o dan Ran 7 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992—

                           (i)    cymhorthdal incwm; neu

                         (ii)    budd-dal tai;

(b)     lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm o fewn yr ystyr a roddir i “income-based jobseeker’s allowance” yn adran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995;

(c)     credyd treth gwaith o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002 y mae paragraff (3) yn gymwys iddo;

(d)     credyd gwarant o dan Ddeddf Credyd Pensiynau’r Wladwriaeth 2002;

(e)     lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm sy’n daladwy o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007;

(f)      taliadau annibyniaeth bersonol sy’n daladwy o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012; neu

(g)     credyd cynhwysol.

(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)     naill ai—

                           (i)    pan fo elfen anabledd neu elfen anabledd difrifol (neu’r ddau) yn y credyd treth gwaith y mae’r person, neu bartner y person, yn ei gael; neu

                         (ii)    pan fo’r person neu bartner y person hefyd yn cael credyd treth plant; a

(b)     pan fo’r incwm blynyddol gros a gymerir i ystyriaeth ar gyfer cyfrifo’r credyd treth gwaith yn £16,190 neu lai.

(4) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 51, ystyr “partner” (“partner”), mewn perthynas â pherson, yw—

(a)     pan fo’r person yn aelod o gwpl, yr aelod arall o’r cwpl hwnnw; neu

(b)     pan fo’r person yn briod mewn priodas amlbriod â dau neu ragor o aelodau o aelwyd, unrhyw aelod o’r fath.

(5) Ym mharagraff (4), ystyr “cwpl” (“couple”) yw—

(a)     dau berson sydd naill ai’n briod â’i gilydd, neu sy’n bartneriaid sifil i’w gilydd, ac yn aelodau o’r un aelwyd; neu

(b)     dau berson sy’n byw gyda’i gilydd fel pe baent yn gwpl priod.

Ad-dalu ffioedd

51.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mewn perthynas ag unrhyw gais y mae ffi’n daladwy amdano o dan reoliad 44, 45, 46, 47 neu 48, caiff tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol fod unrhyw barti i’r cais yn ad-dalu i unrhyw barti arall hyd at y cyfan neu ran o unrhyw ffi a dalwyd gan y parti arall hwnnw mewn cysylltiad â’r cais.

(2) Ni chaiff tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol fod parti yn gwneud ad-daliad o’r fath os bodlonir y tribiwnlys, ar yr adeg pan fo’r tribiwnlys yn ystyried pa un a fydd yn gwneud hynny ai peidio, fod y parti neu bartner y parti hwnnw’n cael cymorth o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn rheoliad 50(2).

Dirymu

52. Mae’r Rheoliadau a’r Gorchmynion a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)     Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012([10]);

(b)     Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio) 2014([11]);

(c)     Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2014([12]);

(d)     Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio) 2015([13]);

(e)     erthygl 5(1), (2) a (6)(c)(i) o Orchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013([14]);

(f)      paragraff 9 o Atodlen 2 i Orchymyn Deddf Priodasau (Cyplau o’r Un Rhyw) 2013 (Darpariaethau Canlyniadol) 2014([15]);

(g)     paragraff 98 o’r Atodlen i Orchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu’r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd) 2013([16]).

 

 

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru.

Dyddiad

 

 

                   YR ATODLEN                  
Rheoliadau 2 a 6

Manylion Ychwanegol ynglŷn â Rhai Ceisiadau

Ceisiadau a wneir o dan Ddeddf 1985

Ceisiadau sy’n ymwneud â gorchmynion dymchwel

1.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 269(1) o Ddeddf 1985 (apêl gan berson a dramgwyddwyd gan orchymyn dymchwel).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 o Ddeddf 1985 (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo); a

(b)     y datganiad o resymau; ac

(c)     os sail y cais, neu un o’i seiliau, yw mai un o’r ffyrdd o weithredu a grybwyllir yn adran 269A(2) o Ddeddf 1985 yw’r ffordd orau o weithredu mewn perthynas â’r perygl, datganiad yn nodi beth yw’r ffordd honno o weithredu, ynghyd â rhesymau’r ceisydd dros ystyried mai honno yw’r ffordd orau.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

2.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 272(1) neu (2)(a) o Ddeddf 1985 (cais mewn cysylltiad ag adennill treuliau ATLl wrth gyflawni gorchymyn dymchwel o dan adran 271 o Ddeddf 1985 gan gynnwys penderfynu’r cyfraniadau gan gydberchnogion).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 o Ddeddf 1985 (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

(b)     y datganiad o resymau; ac

(c)     datganiad o’r canlynol—

                           (i)    y treuliau yr aeth yr ATLl iddynt o dan adran 271 o Ddeddf 1985 (gweithredu gorchymyn dymchwel);

                         (ii)    y swm (os oes un) a gafwyd drwy werthu defnyddiau; a

                       (iii)    y swm y mae’r ATLl yn ceisio ei adennill oddi wrth unrhyw berchennog y fangre.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y fangre.

3.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 272(2)(b) o Ddeddf 1985 (cais gan un o berchnogion mangre am benderfynu’r cyfraniad i dreuliau ATLl, sydd i’w dalu gan berchennog arall).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 o Ddeddf 1985 (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

(b)     y datganiad o resymau; ac

(c)     datganiad o’r canlynol—

                           (i)    priod fuddiannau’r perchnogion yn y fangre; a

                         (ii)    eu priod rwymedigaethau ac atebolrwyddau o ran cynnal a thrwsio, o dan unrhyw gyfamod neu gytundeb, boed yn ddatganedig neu ymhlyg.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r perchennog y mae’r ceisydd yn ceisio cyfraniad ganddo tuag at dreuliau’r ATLl.

4.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 317(1) o Ddeddf 1985 (cais gan lesydd neu lesddeiliad mangre y daeth gorchymyn dymchwel yn weithredol mewn cysylltiad â hi, am orchymyn yn amrywio neu’n terfynu les).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 o Ddeddf 1985 (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

(b)     y datganiad o resymau;

(c)     copi o’r les berthnasol; a

(d)     datganiad o enw a chyfeiriad unrhyw barti arall i’r les ac enw a chyfeiriad unrhyw barti i les isradd.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r parti arall i’r les.

Ceisiadau sy’n ymwneud â gwaith ar fangreoedd nad ydynt yn ffit

5.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 318(1) o Ddeddf 1985 (cais gan berson sydd â buddiant mewn mangre am awdurdodiad gan dribiwnlys i gyflawni gwaith ar fangre nad yw’n ffit, neu waith ar gyfer gwella).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     manylion y gwaith y mae’r ceisydd yn bwriadu ei gyflawni, gan gynnwys—

                           (i)    enwau a chyfeiriadau contractwyr arfaethedig pan fo’n berthnasol;

                         (ii)    amcangyfrif o gostau’r gwaith; a

                       (iii)    amserlen ar gyfer cychwyn a chwblhau’r gwaith;

(b)     pan wneir y cais ar y sail a grybwyllir yn adran 318(1)(b) o Ddeddf 1985, manylion—

                           (i)    y cynllun gwella neu ailadeiladu y mae’r ceisydd yn dymuno ei gyflawni; a

                         (ii)    y gymeradwyaeth o’r cynllun gan yr ATLl;

(c)     datganiad o statws ariannol y ceisydd, gan gynnwys datgeliad o’r cyllid sydd ar gael i ddiwallu costau amcangyfrifedig y gwaith; a

(d)     pan fo’r cais yn cynnwys cais am orchymyn yn terfynu les a ddelir oddi wrth y ceisydd neu les ddeilliannol, copi o’r les honno.

(3) Yr ymatebwyr penodedig yw—

(a)     y person sydd â hawl i feddiannu’r fangre;

(b)     perchennog y fangre.

Ceisiadau a wneir o dan Ddeddf 2004

Ceisiadau sy’n ymwneud â hysbysiadau gwella

6.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10(1) o Atodlen 1 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn hysbysiad gwella) ac eithrio cais y cyfeirir ato ym mharagraff 2.

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r hysbysiad gwella (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

(b)     y datganiad o resymau; ac

(c)     os sail y cais, neu un o’i seiliau, yw mai un o’r ffyrdd o weithredu a grybwyllir ym mharagraff 12(2) o Atodlen 1 i Ddeddf 2004 yw’r ffordd orau o weithredu mewn perthynas â’r perygl, datganiad yn nodi beth yw’r ffordd honno o weithredu, ynghyd â rhesymau’r ceisydd dros ystyried mai honno yw’r ffordd orau.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

7.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10 o Atodlen 1 i Ddeddf 2004 sydd ar y sail a nodir ym mharagraff 11(1) o’r Atodlen honno (sail apêl yn ymwneud â phersonau eraill), neu sy’n cynnwys y sail honno.

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r hysbysiad gwella (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

(b)     y datganiad o resymau;

(c)     os un o’r seiliau ar gyfer y cais yw mai ffordd arall o weithredu a grybwyllir ym mharagraff 12(2) o Atodlen 1 i Ddeddf 2004 yw’r ffordd orau o weithredu mewn perthynas â’r perygl, datganiad yn nodi beth yw’r ffordd honno o weithredu, ynghyd â rhesymau’r ceisydd dros ystyried mai honno yw’r ffordd orau;

(d)     enw a chyfeiriad unrhyw berson a ddylai, fel un o berchnogion y fangre, ym marn y ceisydd, weithredu fel sy’n ofynnol o dan yr hysbysiad gwella neu dalu’r cyfan neu ran o gostau’r gweithredu hwnnw (“y perchennog arall”);

(e)     prawf bod copi o’r cais wedi ei gyflwyno i’r perchennog arall; ac

(f)      datganiad yn cynnwys y manylion a ganlyn—

                           (i)    natur buddiant y perchennog arall yn y fangre;

                         (ii)    y rheswm pam y mae’r ceisydd yn ystyried y dylai’r perchennog arall weithredu fel sydd dan sylw, neu dalu’r cyfan neu ran o gost gweithredu felly; a

                       (iii)    os sail y cais yw y dylai’r perchennog arall dalu’r cyfan neu ran o gost y gweithredu, amcangyfrif o gost y gweithredu a’r gyfran o’r gost honno y mae’r ceisydd yn ystyried y dylai’r perchennog arall ei thalu.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

8.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 13(1) o Atodlen 1 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i amrywio neu wrthod amrywio neu ddirymu hysbysiad gwella).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r hysbysiad gwella (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

(b)     y datganiad o resymau; ac

(c)     copi o benderfyniad yr ATLl i amrywio neu wrthod amrywio neu ddirymu (gan gynnwys unrhyw ddogfennau a ddyroddwyd gan yr ATLl mewn cysylltiad â’i hysbysiad o benderfyniad).

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

9.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan—

(a)     paragraff 11(1) o Atodlen 3 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn hawliad gan yr ATLl am adennill y treuliau yr aeth yr ATLl iddynt wrth weithredu pan fo hysbysiad gwella wedi ei gyflwyno); a

(b)     y paragraff hwnnw fel y’i cymhwysir gydag addasiadau gan adran 42 o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn hawliad gan yr ATLl am adennill y treuliau yr aed iddynt wrth gymryd camau adferol brys).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r hysbysiad gwella neu (yn ôl y digwydd) yr hysbysiad o weithredu adferol brys (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

(b)     yr hysbysiad o’r datganiad o resymau;

(c)     copi o’r hysbysiad a gyflwynwyd gan yr ATLl o dan baragraff 4 o Atodlen 3 i Ddeddf 2004 (hysbysiad ynghylch bwriad ATLl i fynd i fangre i gymryd camau gweithredu penodedig heb gytundeb);

(d)     copi o hawliad yr ATLl am dreuliau; ac

(e)     pan wneir y cais ar y sail a grybwyllir ym mharagraff 11(4) o’r Atodlen honno, manylion y cynnydd y dibynnir ar iddo gael ei wneud tuag at gydymffurfio â’r hysbysiad.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

 

Ceisiadau sy’n ymwneud â gorchmynion gwahardd

10.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 22(9) o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gwrthodiad gan ATLl i gymeradwyo defnydd penodol o dan adran 22(4) o Ddeddf 2004).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r gorchymyn gwahardd (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

(b)     y datganiad o resymau; ac

(c)     hysbysiad o benderfyniad yr ATLl i wrthod cymeradwyo defnydd penodol o’r cyfan neu ran o’r fangre.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

11.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 34(2) o Ddeddf 2004 (cais gan lesydd neu lesddeiliad am orchymyn yn terfynu neu’n amrywio les pan fo gorchymyn gwahardd wedi dod yn weithredol).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r gorchymyn gwahardd (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

(b)     y datganiad o resymau;

(c)     copi o’r les berthnasol; a

(d)     datganiad o enw a chyfeiriad unrhyw barti arall i’r les ac enw a chyfeiriad unrhyw barti i les isradd.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r parti arall i’r les.

12.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 7(1) o Atodlen 2 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gorchymyn gwahardd).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r gorchymyn gwahardd (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

(b)     y datganiad o resymau; ac

(c)     os un o seiliau’r cais yw mai un o’r ffyrdd o weithredu a grybwyllir ym mharagraff 8(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 2004 yw’r ffordd orau o weithredu mewn perthynas â’r perygl, datganiad yn nodi beth yw’r ffordd honno o weithredu ynghyd â rhesymau’r ceisydd dros ystyried mai honno yw’r ffordd orau.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

13.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 9 o Atodlen 2 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i amrywio neu wrthod amrywio neu ddirymu gorchymyn gwahardd).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r gorchymyn gwahardd (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

(b)     y datganiad o resymau; ac

(c)     copi o benderfyniad yr ATLl i amrywio neu wrthod amrywio neu ddirymu (gan gynnwys unrhyw ddogfennau a ddyroddwyd gan yr ATLl mewn cysylltiad â’i hysbysiad o benderfyniad).

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

Ceisiadau sy’n ymwneud â gweithredu adferol brys

14.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 45(1) o Ddeddf 2004 (apêl gan berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan adran 41 o Ddeddf 2004 yn erbyn penderfyniad ATLl i gymryd camau gweithredu adferol brys).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r hysbysiad o weithredu adferol brys (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo); a

(b)     y datganiad o resymau.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

15.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 45(2) o Ddeddf 2004 (apêl gan berson perthnasol yn erbyn gorchymyn gwahardd brys).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r hysbysiad o orchymyn gwahardd brys a wnaed o dan adran 43 o Ddeddf 2004 (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo); a

(b)     y datganiad o resymau.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

16.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan—

(a)     paragraff 14 o Atodlen 3 i Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn i adennill treuliau a llog oddi wrth berson sy’n elwa o weithredu heb gytundeb); a

(b)     y paragraff hwnnw fel y’i cymhwysir gydag addasiadau gan adran 42 o Ddeddf 2004 (adennill treuliau am weithredu adferol brys).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r hysbysiad gwella neu, yn ôl y digwydd, yr hysbysiad o weithredu adferol brys (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

(b)     y datganiad o resymau;

(c)     copi o’r hawliad am dreuliau a gyflwynwyd o dan baragraff 9 o’r Atodlen honno;

(d)     copi o unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff 12 o’r Atodlen honno; ac

(e)     prawf bod yr hysbysiad wedi ei gyflwyno i’r person o dan sylw fel y crybwyllir ym mharagraff 14(2) o’r Atodlen honno.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r person y mae’r ATLl yn ceisio adennill treuliau a llog oddi wrtho.

Ceisiadau sy’n ymwneud â thrwyddedu HMO

17.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 62(7) o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gwrthodiad gan ATLl i gyflwyno hysbysiad esemptio dros dro).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r hysbysiad i’r ATLl o dan adran 62(1) o Ddeddf 2004; a

(b)     copi o’r hysbysiad o benderfyniad yr ATLl o dan adran 62(6) o Ddeddf 2004.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

18.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 73(5) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl neu feddiannydd am orchymyn ad-dalu rhent).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     pan wneir y cais gan yr ATLl—

                           (i)    copi o’r hysbysiad o’r bwriad i ddwyn achos o dan adran 73(7) o Ddeddf 2004;

                         (ii)    copi o unrhyw sylwadau a gafwyd mewn cysylltiad â’r hysbysiad;

                       (iii)    naill ai—

(aa)        datganiad yn cynnwys y manylion y dibynnir arnynt ar gyfer gwneud yr honiad bod trosedd o dan adran 72(1) o Ddeddf 2004 wedi ei chyflawni; neu

(bb)       pan fo’r ATLl yn dibynnu ar ddarpariaethau adran 74 o Ddeddf 2004, prawf bod y person priodol wedi ei euogfarnu o drosedd o dan adran 72(1) o Ddeddf 2004; a

                        (iv)    dogfen sy’n dangos y budd-dal tai neu’r credyd cynhwysol a dalwyd gan yr ATLl mewn cysylltiad â meddiant o’r fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir i drosedd o’r fath gael ei chyflawni;

(b)     pan wneir y cais gan feddiannydd—

                           (i)    tystiolaeth bod y person priodol wedi ei euogfarnu o drosedd o dan adran 72(1) o Ddeddf 2004 neu y’i gwnaed yn ofynnol drwy orchymyn ad-dalu rhent ei fod yn gwneud taliad mewn cysylltiad â budd-dal tai neu gredyd cynhwysol; a

                         (ii)    tystiolaeth bod y meddiannydd wedi talu taliadau cyfnodol mewn cysylltiad â meddiant o’r fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir bod trosedd o’r fath yn cael ei chyflawni.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r person priodol.

19.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 255(9) o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i gyflwyno datganiad HMO).

(2) Y ddogfen benodedig yw copi o’r datganiad HMO.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

20.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 256(4) o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i wrthod dirymu datganiad HMO).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r datganiad HMO; a

(b)     copi o hysbysiad yr ATLl o’i benderfyniad i beidio â dirymu’r datganiad HMO.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

21.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 31(1) o Atodlen 5 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i ganiatáu, neu wrthod caniatáu, trwydded o dan Ran 2 o Ddeddf 2004, neu yn erbyn unrhyw un o delerau’r drwydded).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     pan fo’r cais yn ymwneud â chaniatáu trwydded neu â thelerau trwydded—

                           (i)    copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 1 a 7 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004, ac o unrhyw hysbysiad o dan baragraff 3 o’r Atodlen honno; a

                         (ii)    copi o’r drwydded; a

(b)     pan fo’r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ganiatáu trwydded, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 5 ac 8 o’r Atodlen honno.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

22.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 32(1) o Atodlen 5 i Ddeddf 2004 (apêl gan ddeiliad trwydded neu unrhyw berson perthnasol yn erbyn penderfyniad gan ATLl ynglŷn ag amrywio neu ddirymu trwydded).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio trwydded, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 14 ac 16 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004;

(b)     pan fo’r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio trwydded, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 19 ac 21 o’r Atodlen honno;

(c)     pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 22 a 24 o’r Atodlen honno;

(d)     pan fo’r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 26 ac 28 o’r Atodlen honno; ac

(e)     ym mhob achos, copi o’r drwydded.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

Ceisiadau sy’n ymwneud â thrwyddedu llety preswyl arall yn ddetholus

23.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 86(7) o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gwrthodiad gan yr ATLl i gyflwyno hysbysiad esemptio dros dro).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r hysbysiad i’r ATLl o dan adran 86(1) o Ddeddf 2004; a

(b)     copi o’r hysbysiad o benderfyniad yr ATLl o dan adran 86(6) o Ddeddf 2004.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

24.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 96(5) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl neu feddiannydd am orchymyn ad-dalu rhent).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     pan wneir y cais gan yr ATLl—

                           (i)    copi o’r hysbysiad o’r bwriad i ddwyn achos o dan adran 96(7) o Ddeddf 2004;

                         (ii)    copi o unrhyw sylwadau a gafwyd mewn cysylltiad â’r hysbysiad;

                       (iii)    naill ai—

(aa)        datganiad yn cynnwys y manylion y dibynnir arnynt ar gyfer gwneud yr honiad bod trosedd o dan adran 95(1) o Ddeddf 2004 wedi ei chyflawni; neu

(bb)       pan fo’r ATLl yn dibynnu ar ddarpariaethau adran 97 o Ddeddf 2004, prawf bod y person priodol wedi ei euogfarnu o drosedd o dan adran 95(1) o Ddeddf 2004; a

                        (iv)    dogfen sy’n dangos y budd-dal tai neu’r credyd cynhwysol a dalwyd gan yr ATLl mewn cysylltiad â meddiant o’r fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir i drosedd o’r fath gael ei chyflawni;

(b)     pan wneir y cais gan feddiannydd—

                           (i)    tystiolaeth bod y person priodol wedi ei euogfarnu o drosedd o dan adran 95(1) o Ddeddf 2004 neu y’i gwnaed yn ofynnol drwy orchymyn ad-dalu rhent ei fod yn gwneud taliad mewn cysylltiad â budd-dal tai neu gredyd cynhwysol; a

                         (ii)    tystiolaeth bod y meddiannydd wedi talu taliadau cyfnodol mewn cysylltiad â meddiant o’r fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir bod trosedd o’r fath yn cael ei chyflawni.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r person priodol.

25.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 31 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad gan ATLl i ganiatáu, neu wrthod caniatáu, trwydded o dan Ran 3, neu sy’n ymwneud â thelerau trwydded).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     pan fo’r cais yn ymwneud â chaniatáu trwydded neu â thelerau trwydded—

                           (i)    copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 1 a 7 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004, ac o unrhyw hysbysiad o dan baragraff 3 o’r Atodlen honno; a

                         (ii)    copi o’r drwydded; a

(b)     pan fo’r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ganiatáu trwydded, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 5 ac 8 o’r Atodlen honno.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

26.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 32(1) o dan Atodlen 5 i Ddeddf 2004 (apêl gan ddeiliad trwydded neu berson perthnasol yn erbyn penderfyniad gan ATLl sy’n ymwneud ag amrywio neu ddirymu trwydded).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio trwydded, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 14 ac 16 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004;

(b)     pan fo’r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio trwydded, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 19 ac 21 o’r Atodlen honno;

(c)     pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 22 a 24 o’r Atodlen honno;

(d)     pan fo’r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 26 ac 28 o’r Atodlen honno; ac

(e)     ym mhob achos, copi o’r drwydded.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

Ceisiadau sy’n ymwneud â gorchmynion rheoli interim a therfynol

27.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 102(4) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am awdurdod i wneud gorchymyn rheoli interim).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r gorchymyn drafft;

(b)     datganiad o’r materion sy’n berthnasol i ystyriaeth y tribiwnlys o—

                           (i)    pa un a yw’r amod iechyd a diogelwch yn adran 104 o Ddeddf 2004 wedi ei fodloni; a

                         (ii)    i ba raddau y cydymffurfiwyd ag unrhyw god ymarfer cymwys a gymeradwywyd o dan adran 233 o Ddeddf 2004; a

                       (iii)    pan fo’r ATLl yn gofyn am ymdrin â’r cais fel mater brys o dan reoliad 10, datganiad sy’n rhoi manylion digonol i alluogi’r tribiwnlys i ffurfio barn ynglŷn ag a yw’n ymddangos bod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) o’r rheoliad hwnnw yn bodoli.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw person perthnasol yn ôl y diffiniad o “relevant person” ym mharagraffau 8(4) a 35 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004.

28.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 102(7) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am awdurdod i wneud gorchymyn rheoli interim mewn cysylltiad â thŷ y mae adran 103 o Ddeddf 2004 yn gymwys iddo).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r gorchymyn drafft;

(b)     datganiad o’r materion sy’n berthnasol i ystyriaeth y tribiwnlys ynglŷn ag a yw’r amodau yn adran 103(3) a (4) o Ddeddf 2004 wedi eu bodloni; ac

(c)     pan fo’r ATLl yn gofyn am ymdrin â’r cais fel mater brys o dan reoliad 10, datganiad sy’n rhoi manylion digonol i alluogi’r tribiwnlys i ffurfio barn ynglŷn ag a yw’n ymddangos bod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) o’r rheoliad hwnnw yn bodoli.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw person perthnasol yn ôl y diffiniad o “relevant person” ym mharagraffau 8(4) a 35 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004.

29.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 105(10) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn bod gorchymyn rheoli interim yn parhau mewn grym hyd nes penderfynir apêl).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r gorchymyn rheoli interim; a

(b)     copi o’r hysbysiad o apêl o dan baragraff 24 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 yn erbyn gwneud gorchymyn rheoli terfynol.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl berthnasol.

30.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 110(7) o Ddeddf 2004 (cais gan landlord perthnasol am orchymyn mewn perthynas â threfniadau ariannol tra bo gorchymyn rheoli interim mewn grym).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r gorchymyn rheoli interim; a

(b)     copi o’r cyfrifon a gadwyd gan yr ATLl yn unol ag adran 110(6) o Ddeddf 2004.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

31.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 114(7) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn bod gorchymyn rheoli terfynol sy’n bodoli eisoes i barhau mewn grym hyd nes penderfynir apêl yn erbyn gorchymyn rheoli terfynol newydd).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r gorchymyn rheoli terfynol sy’n bodoli eisoes;

(b)     copi o’r gorchymyn rheoli terfynol newydd a wnaed i ddisodli’r gorchymyn sy’n bodoli eisoes; ac

(c)     copi o’r hysbysiad o apêl o dan baragraff 24 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 yn erbyn gwneud y gorchymyn rheoli terfynol newydd.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl berthnasol.

32.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 120(1) o Ddeddf 2004 (cais gan berson yr effeithir arno am orchymyn bod yr ATLl yn rheoli yn unol â’r cynllun rheoli yn y gorchymyn rheoli terfynol).

(2) Y ddogfen benodedig yw copi o’r gorchymyn rheoli terfynol sy’n cynnwys y cynllun rheoli y cyfeirir ato yn y cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

33.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 126(4) o Ddeddf 2004 (cais am addasu hawliau ac atebolrwyddau mewn perthynas â dodrefn a freinir yn yr ATLl tra bo gorchymyn rheoli mewn grym).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r gorchymyn rheoli perthnasol; a

(b)     datganiad sy’n rhoi manylion am briod hawliau ac atebolrwyddau (gan gynnwys perchnogaeth) pob un o’r personau sydd â buddiant yn y dodrefn.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r person arall sydd â buddiant yn y dodrefn.

34.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 130(9) o Ddeddf 2004 (cais i benderfynu pwy yw “y landlord perthnasol” (“the relevant landlord”) at ddibenion adran 130 o Ddeddf 2004 pan ddaw’r gorchymyn rheoli i ben).

(2) Y ddogfen benodedig yw copi o’r gorchymyn rheoli.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r landlord perthnasol arall.

35.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 24 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gwneud gorchymyn rheoli, neu yn erbyn telerau’r gorchymyn neu’r cynllun rheoli cysylltiedig).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r gorchymyn rheoli (gan gynnwys y cynllun rheoli);

(b)     copi o’r hysbysiad a gyflwynwyd gan yr ATLl o dan baragraff 7(2)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf 2004;

(c)     pan fo’r cais yn ymwneud â thelerau’r gorchymyn rheoli, datganiad sy’n pennu pob un o’r telerau a wrthwynebir, ynghyd â’r rhesymau dros y gwrthwynebiad; a

(d)     pan wneir y cais ar y sail a bennir ym mharagraff 24(3) o Atodlen 6 i Ddeddf 2004, datganiad o’r materion yn adran 110(5) o Ddeddf 2004 (sy’n ymwneud â thalu rhenti dros ben, etc.) sy’n berthnasol i’r sail honno.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

36.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 28 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i amrywio neu ddirymu gorchymyn rheoli, neu wrthod amrywio neu ddirymu gorchymyn rheoli).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 9 ac 11 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004;

(b)     pan fo’r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 14 ac 16 o’r Atodlen honno;

(c)     pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 17 a 19 o’r Atodlen honno;

(d)     pan fo’r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 20 a 22 o’r Atodlen honno; ac

(e)     ym mhob achos—

                           (i)    copi o’r gorchymyn rheoli; a

                         (ii)    copi o’r hysbysiad a gyflwynwyd gan yr ATLl o dan baragraff 7(2)(b) o’r Atodlen honno.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

37.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 32(2) o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 (apêl gan drydydd parti yn erbyn penderfyniad gan ATLl o dan adran 128 o Ddeddf 2004 ynglŷn â’r digollediad sy’n daladwy i drydydd partïon).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r gorchymyn rheoli (gan gynnwys y cynllun rheoli);

(b)     copi o hysbysiad yr ATLl i’r trydydd parti, o benderfyniad yr ATLl yn unol ag adran 128(2) o Ddeddf 2004; ac

(c)     datganiad sy’n rhoi manylion llawn o’r canlynol—

                           (i)    yr hawliau yr honnir yr ymyrrwyd â hwy o ganlyniad i’r gorchymyn rheoli; a

                         (ii)    swm y digollediad a hawlir mewn cysylltiad â’r ymyrraeth honno.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

Ceisiadau mewn perthynas â gorchmynion rheoli anheddau gwag

38.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 133(1) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am awdurdodiad i wneud GRhAG interim).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r GRhAG interim drafft;

(b)     datganiad o dystiolaeth—

                           (i)    mewn cysylltiad â’r materion y mae’n rhaid bodloni’r tribiwnlys yn eu cylch o dan adran 134(2) o Ddeddf 2004;

                         (ii)    ynglŷn ag ystyriaeth yr ATLl o’r hawliau a’r buddiannau a bennir yn adran 133(4) o Ddeddf 2004; ac

(c)     pan fo’r ATLl, yn unol ag adran 133(3) o Ddeddf 2004, wedi hysbysu’r perchennog perthnasol ei fod yn ystyried gwneud GRhAG interim, copi o’r hysbysiad.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r perchennog perthnasol.

39.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 138(1) o Ddeddf 2004 (cais, tra bo GRhAG interim mewn grym, am orchymyn bod yr ATLl i dalu digollediad i drydydd parti am ymyrryd â’i hawliau).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r GRhAG interim;

(b)     copi o hysbysiad yr ATLl i’r trydydd parti, o benderfyniad yr ATLl yn unol ag adran 138(4) o Ddeddf 2004; ac

(c)     datganiad sy’n rhoi manylion llawn o’r canlynol—

                           (i)    yr hawliau yr honnir yr ymyrrwyd â hwy o ganlyniad i’r GRhAG interim; a

                         (ii)    swm y digollediad a hawlir mewn cysylltiad â’r ymyrraeth honno.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

40.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 1(7) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn bod GRhAG interim i barhau mewn grym hyd nes penderfynir apêl o dan baragraff 26 o’r Atodlen honno).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r GRhAG interim; a

(b)     copi o’r hysbysiad o apêl o dan baragraff 26 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 yn erbyn gwneud GRhAG interim.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl berthnasol.

41.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 2(3)(d) neu baragraff 10(3)(d) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn o dan baragraff 22 o’r Atodlen honno i derfynu les neu drwydded tra bo GRhAG interim neu derfynol mewn grym).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r GRhAG interim neu derfynol (gan gynnwys unrhyw gynllun rheoli);

(b)     copi o’r les neu’r drwydded berthnasol, neu os nad oes copi ohoni ar gael, tystiolaeth o fodolaeth y les neu’r drwydded; ac

(c)     datganiad yn cynnwys y manylion a ganlyn—

                           (i)    enw a chyfeiriad, os ydynt yn hysbys, unrhyw lesydd, lesddeiliad, is-lesydd, is-lesddeiliad, neu drwyddedai;

                         (ii)    tystiolaeth o’r materion y mae’n rhaid bodloni’r tribiwnlys yn eu cylch o dan baragraff 22(1)(b) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004; a

                       (iii)    swm y digollediad (os oes rhywfaint) y mae’r ATLl yn fodlon ei dalu mewn cysylltiad â therfynu’r les neu’r drwydded, gan gynnwys manylion o’r modd y cyfrifwyd swm y digollediad hwnnw.

(3) Yr ymatebwyr penodedig yw’r partïon i’r les neu’r drwydded.

42.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 5(7) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan berchennog perthnasol am orchymyn mewn cysylltiad â threfniadau ariannol tra bo GRhAG interim mewn grym).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r GRhAG interim; a

(b)     copi o’r cyfrifon a gedwir gan yr ATLl yn unol â pharagraff 5(6) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

43.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 9(8) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn bod GRhAG terfynol i barhau mewn grym hyd nes penderfynir apêl o dan baragraff 26 o’r Atodlen honno).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r GRhAG terfynol; a

(b)     copi o’r hysbysiad o apêl o dan baragraff 26 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 yn erbyn gwneud GRhAG terfynol.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl berthnasol.

44.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 14(1) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan berson yr effeithir arno am orchymyn bod ATLl i reoli annedd yn unol â chynllun rheoli mewn GRhAG terfynol).

(2) Y ddogfen benodedig yw copi o’r GRhAG terfynol (gan gynnwys y cynllun rheoli).

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

45.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 26(1) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i wneud GRhAG terfynol, neu yn erbyn telerau’r gorchymyn neu gynllun rheoli cysylltiedig).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r GRhAG terfynol (gan gynnwys y cynllun rheoli);

(b)     pan fo’r cais yn ymwneud â thelerau’r gorchymyn rheoli, datganiad yn pennu pob un o’r telerau a wrthwynebir, ynghyd â’r rhesymau dros y gwrthwynebiad; ac

(c)     pan wneir y cais ar y sail a bennir ym mharagraff 26(1)(c) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004, datganiad o’r materion ym mharagraff 5(5)(a) a (b) o’r Atodlen honno (sy’n ymwneud â thalu rhenti dros ben etc.) sy’n berthnasol i’r sail honno.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

46.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 30 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i amrywio neu ddirymu GRhAG interim neu derfynol, neu wrthod amrywio neu ddirymu gorchymyn o’r fath).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio GRhAG interim neu derfynol, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 9 ac 11 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 (fel y’u cymhwysir gan baragraff 17 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno);

(b)     pan fo’r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio GRhAG interim neu derfynol, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 14 ac 16 o’r Atodlen honno;

(c)     pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu GRhAG interim neu derfynol, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 17 a 19 o’r Atodlen honno; a

(d)     pan fo’r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu GRhAG interim neu derfynol, copi o hysbysiadau’r ATLl o dan baragraffau 20 a 22 o’r Atodlen honno; ac

(e)     ym mhob achos, copi o’r GRhAG interim neu derfynol (yn ôl y digwydd).

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

47.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 34(2) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl o dan adran 136(4) neu 138(3) o Ddeddf 2004 mewn cysylltiad â’r digollediad sy’n daladwy i drydydd partïon am ymyrraeth â’u hawliau o ganlyniad i GRhAG terfynol).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r GRhAG terfynol (gan gynnwys y cynllun rheoli);

(b)     pan fo’r trydydd parti wedi gofyn am ei ddigolledu o dan adran 138 o Ddeddf 2004, copi o hysbysiad yr ATLl o’i benderfyniad i’r trydydd parti yn unol ag is-adran (4) o’r adran honno; ac

(c)     datganiad sy’n rhoi manylion llawn o’r canlynol—

                           (i)    yr hawliau yr honnir yr ymyrrwyd â hwy o ganlyniad i’r GRhAG terfynol; a

                         (ii)    swm y digollediad a hawlir mewn cysylltiad â’r ymyrraeth honno.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

Ceisiadau mewn perthynas â hysbysiadau gorlenwi

48.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 143(1) o Ddeddf 2004 (apêl gan berson a dramgwyddwyd gan hysbysiad gorlenwi).

(2) Y ddogfen benodedig yw copi o’r hysbysiad gorlenwi, neu ddatganiad gan y ceisydd yn esbonio’r amgylchiadau sydd wedi peri na all y ceisydd ddarparu copi o’r hysbysiad hwnnw.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.

49.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 144(2) o Ddeddf 2004 (apêl gan berson perthnasol yn erbyn gwrthodiad ATLl i ddirymu neu amrywio hysbysiad gorlenwi, neu yn erbyn methiant yr ATLl i ymateb mewn pryd i gais am ddirymu neu amrywio hysbysiad o’r fath).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r hysbysiad gorlenwi; a

(b)     os gwrthododd yr ATLl amrywio hysbysiad gorlenwi, copi o benderfyniad yr ATLl.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r ATLl.


Ceisiadau a wneir o dan Ddeddf 2013

 

Ceisiadau sy’n ymwneud â methiant i roi datganiad ysgrifenedig

50.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 49(5) o Ddeddf 2013 (hawl i gael datganiad ysgrifenedig).

(2) Y dogfennau penodedig yw unrhyw ddogfennau a roddir gan berchennog y safle i’r meddiannydd, y mae’n ofynnol o dan adran 49(1) o Ddeddf 2013 bod perchennog y safle yn eu rhoi.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.

Ceisiadau sy’n ymwneud â thelerau ymhlyg ychwanegol neu amrywio neu ddileu telerau ymhlyg neu delerau datganedig

51.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 50(2) o Ddeddf 2013 (telerau a grybwyllir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 i’w hymhlygu).

(2) Y ddogfen benodedig yw datganiad sy’n pennu’r rhesymau pam y mae’r ceisydd yn gwneud cais i unrhyw rai o’r materion a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 fod ymhlyg yn y cytundeb rhwng perchennog y safle a’r meddiannydd.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw—

(a)     os perchennog y safle yw’r ceisydd, y meddiannydd; a

(b)     os y meddiannydd yw’r ceisydd, perchennog y safle.

52.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 50(3)(a) o Ddeddf 2013 (amrywio neu ddileu unrhyw deler datganedig yn y cytundeb).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r cytundeb; a

(b)     datganiad yn pennu—

                           (i)    pa un o delerau datganedig y cytundeb y mae’r ceisydd yn gofyn i’r tribiwnlys ei amrywio neu ei ddileu, neu, yn achos unrhyw deler datganedig y mae adran 49(5) o Ddeddf 2013 yn gymwys iddo, pa un y mae’r ceisydd yn dymuno rhoi effaith lawn iddo; a

                         (ii)    y rhesymau pam y mae’r ceisydd yn gwneud cais am amrywio neu ddileu unrhyw deler datganedig yn y cytundeb, neu, yn achos unrhyw deler datganedig y mae adran 49(5) o Ddeddf 2013 yn gymwys iddo, y rhesymau dros ddymuno rhoi effaith lawn iddo.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw—

(a)     os perchennog y safle yw’r ceisydd, y meddiannydd; a

(b)     os y meddiannydd yw’r ceisydd, perchennog y safle.

Ceisiadau sy’n ymwneud ag unrhyw gwestiwn o dan Ddeddf 2013

53.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 54 o Ddeddf 2013 (penderfynu ar unrhyw gwestiwn sy’n codi o dan Ran 4 o Ddeddf 2013 neu gytundeb y mae’r Rhan honno’n gymwys iddo).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r cytundeb; a

(b)     unrhyw ohebiaeth berthnasol a roddodd neu a gafodd y ceisydd mewn cysylltiad â’r cwestiwn sydd i’w benderfynu.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw—

(a)     os perchennog y safle yw’r ceisydd, y meddiannydd; a

(b)     os y meddiannydd yw’r ceisydd, perchennog y safle.

Ceisiadau sy’n ymwneud ag effaith andwyol cartrefi symudol ar amwynder y safle

54.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 7(1)(a) o Bennod 2, neu baragraff 40(1)(a) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (penderfyniad gan dribiwnlys ynghylch effaith andwyol cartref symudol).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd i’r meddiannydd gan berchennog y safle, sy’n hysbysu’r meddiannydd o fwriad perchennog y safle i wneud cais o dan baragraff 7(1) o Bennod 2, neu baragraff 40(1) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno;

(b)     unrhyw adroddiad sydd wedi ei baratoi, sy’n disgrifio cyflwr y cartref symudol; ac

(c)     unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r meddiannydd.

Ceisiadau sy’n ymwneud â therfynu gan berchennog y safle

55.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraffau 5, 6 neu 7(1)(b) o Bennod 2, neu baragraffau 38, 39 neu 40(1)(b) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (terfynu gan berchennog y safle).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r cytundeb;

(b)     unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd i’r meddiannydd gan berchennog y safle, sy’n hysbysu’r meddiannydd o fwriad perchennog y safle i wneud cais o dan baragraffau 5, 6 neu 7(1) o Bennod 2, neu baragraffau 38, 39 neu 40(1)(b) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno;

(c)     yn achos cais o dan baragraff 5 o Bennod 2, neu baragraff 38 o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno, os y toriad honedig yw methiant i dalu’r ffi am y llain, datganiad o’r ffioedd llain a oedd yn ddyledus ac o’r ffioedd a gafwyd yn ystod y cyfnod o dan sylw;

(d)     unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais; ac

(e)     yn achos cais o dan baragraff 7(1) o Bennod 2, neu baragraff 40(1) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno, copi o benderfyniad y tribiwnlys o dan y paragraff hwnnw.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r meddiannydd.

 

Ceisiadau sy’n ymwneud â chymeradwyo person wrth werthu cartrefi symudol neu eu rhoi yn anrheg [neu gymeradwyo aseinio llain]

56.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10(3) (gwerthu cartref symudol) neu baragraff 13(3) (rhoi cartref symudol yn anrheg) o Bennod 2 a pharagraff 42(8) o Bennod 4 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013.

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd i berchennog y safle gan y meddiannydd o dan baragraff 10(1)(a) o Bennod 2, neu baragraff 42(1) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno; a

(b)     unrhyw ohebiaeth berthnasol a gafodd y meddiannydd gan berchennog y safle, i’r perwyl nad oedd perchennog y safle yn cymeradwyo’r gwerthiant neu’r rhodd neu’r aseiniad.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.

Ceisiadau sy’n ymwneud ag ail-leoli cartrefi symudol

57.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 14(1) o Bennod 2, neu baragraff 44(1) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (ail-leoli cartref symudol).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     unrhyw ddogfen sy’n pennu’r rheswm dros ei gwneud yn ofynnol bod hawl y meddiannydd i leoli’r cartref symudol yn arferadwy am unrhyw gyfnod mewn perthynas â llain arall, ac yn darparu disgrifiad, amwynder a maint y llain bresennol yn ogystal â’r llain arall arfaethedig;

(b)     copi o’r cytundeb mewn perthynas â’r llain bresennol a drafft o’r cytundeb arfaethedig mewn perthynas â’r llain arall; ac

(c)     yr hysbysiad (os oes un) a gyflwynwyd i’r meddiannydd gan berchennog y safle sy’n pennu bwriad perchennog y safle i wneud cais i’r tribiwnlys o dan baragraff 14(1) o Bennod 2, neu baragraff 44(1) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno ac unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd ynghyd ag ef nas cyflenwyd eisoes i’r tribiwnlys ac sy’n berthnasol i’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r meddiannydd.

Ceisiadau sy’n ymwneud â dychwelyd cartrefi symudol a ail-leolwyd

58.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 14(3) o Bennod 2, neu baragraff 44(3) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (ail-leoli cartref symudol).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     unrhyw gais gan y meddiannydd i berchennog y safle am ddychwelyd y cartref symudol i’r llain wreiddiol ac unrhyw ymateb a gafwyd i’r cais hwnnw;

(b)     copi o’r cytundeb mewn perthynas â’r llain bresennol ac o’r cytundeb mewn perthynas â’r llain arall; ac

(c)     yr hysbysiad (os oes un) a gyflwynwyd gan y meddiannydd i berchennog y safle, ac sy’n pennu bwriad y meddiannydd i wneud cais i’r tribiwnlys o dan baragraff 14(3) o Bennod 2, neu baragraff 44(3) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.

Ceisiadau sy’n ymwneud â’r ffi am y llain

59.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraffau 17(1)(b), 17(6) a 17(11) o Bennod 2, a pharagraffau 47(1)(b), 47(5) a 47(9) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (y ffi am y llain).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     yr hysbysiad a gyflwynwyd i’r meddiannydd gan berchennog y safle o dan baragraff 17(3) neu (8)(b) o Bennod 2, neu 47(3) neu (7)(b) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno (pa un a’i cyflwynwyd erbyn yr amser sy’n ofynnol o dan y paragraff hwnnw ai peidio); a

(b)     unrhyw ddogfen a gyflwynwyd ynghyd â’r cyfryw hysbysiad yn unol â pharagraff 23 o Bennod 2 o Ran 1 o’r Atodlen honno.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw—

(a)     os perchennog y safle yw’r ceisydd, y meddiannydd; a

(b)     os y meddiannydd yw’r ceisydd, perchennog y safle.

Ceisiadau sy’n ymwneud â gwelliannau sydd i’w cymryd i ystyriaeth yn y ffi am y llain

60.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 18(1)(a)(iii) o Bennod 2, neu baragraff 48(1)(a)(iii) o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (y ffi am y llain).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     datganiad o’r gwaith gwella arfaethedig;

(b)     amcangyfrif o’r costau;

(c)     datganiad o ba bryd y bydd y gwaith yn cychwyn ac am ba hyd y bydd yn parhau; a

(d)     manylion yr ymgynghori a wnaed gyda’r meddianwyr o dan baragraff 22(1)(e) ac (f) o Bennod 2, neu baragraff 52(1)(f) ac (g) o Bennod 4, o Ran 1 o’r Atodlen honno a chopïau o’u hymatebion.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r meddiannydd.

 

Ceisiadau sy’n ymwneud â phenderfyniad awdurdod lleol i beidio â dyroddi trwydded safle

61.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 7(4)(b) o Ddeddf 2013 (dyroddi trwydded safle).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r hysbysiad o’r penderfyniad i wrthod dyroddi trwydded safle a’r rhesymau am y penderfyniad a ddyroddwyd gan yr awdurdod lleol o dan adran 7(4)(a) o Ddeddf 2013;

(b)     unrhyw ganiatâd cynllunio perthnasol a roddwyd mewn cysylltiad â’r safle; ac

(c)     unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod lleol.

Ceisiadau sy’n ymwneud ag amodau trwydded safle

62.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adrannau 12(2) neu 14(1) o Ddeddf 2013 (amodau neu amrywio trwyddedau safle).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r drwydded safle ac unrhyw amodau sydd ynghlwm wrthi;

(b)     copi o’r Safonau Enghreifftiol a ddyroddir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru; ac

(c)     unrhyw ddogfen berthnasol arall sy’n pennu’r rheswm dros osod neu amrywio amod ar drwydded safle.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod lleol.

Ceisiadau sy’n ymwneud â hysbysiad cydymffurfio

63.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 17(2) o Ddeddf 2013 (hysbysiad cydymffurfio).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r drwydded safle ac unrhyw amodau sydd ynghlwm wrthi;

(b)     copi o’r hysbysiad cydymffurfio; ac

(c)     unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod lleol.

Ceisiadau sy’n ymwneud â chamau brys

64.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 21(9) o Ddeddf 2013 (camau brys).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     unrhyw hysbysiadau a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol i berchennog y tir o dan adran 21(3) neu (8) o Ddeddf 2013; a

(b)     unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod lleol.

Ceisiadau sy’n ymwneud â hawliad am dreuliau

65.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 22(7) o Ddeddf 2013 (hawlio treuliau).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r hawliad am dreuliau a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol i berchennog y tir o dan adran 22(6) o Ddeddf 2013;

(b)     prawf o euogfarn am drosedd o dan adran 18(1) o Ddeddf 2013, os yw’n briodol;

(c)     copi o unrhyw hysbysiadau perthnasol a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol i berchennog y tir o dan adrannau 17(1), 20(2), 21(3) neu (8) o Ddeddf 2013; a

(d)     unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod lleol.

Ceisiadau sy’n ymwneud â dirymu trwydded safle

66.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 28(2) o Ddeddf 2013 (cais am ddirymu trwydded safle).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     unrhyw dystiolaeth o dan adran 29(3) neu (4) o Ddeddf 2013 y rhoddwyd sylw iddi gan yr awdurdod lleol;

(b)     os yw’n gymwys, yr hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol o dan adran 29(6)(a) o Ddeddf 2013; ac

(c)     unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.

Ceisiadau sy’n ymwneud â phenderfynu a yw person yn berson addas a phriodol

67.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 29(6)(b) o Ddeddf 2013 (apêl yn erbyn penderfyniad nad yw person yn berson addas a phriodol i reoli safle).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     yr hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol o dan adran 29(6)(a) o Ddeddf 2013;

(b)     unrhyw ddogfennau sy’n cynnwys tystiolaeth o dan adran 29(3) a (4) o Ddeddf 2013; ac

(c)     unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod lleol.

Ceisiadau sy’n ymwneud â rheolwyr interim

68.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 30(5) o Ddeddf 2013 (penodi rheolwr interim).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     unrhyw ohebiaeth berthnasol a roddodd neu a gafodd y ceisydd mewn cysylltiad â phenodi rheolwr interim; a

(b)     unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod lleol.

Ceisiadau sy’n ymwneud â gorchmynion ad-dalu pan fo’r safle heb ei drwyddedu

69.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 33(4) o Ddeddf 2013 (cais am orchymyn ad-dalu pan fo safle heb ei drwyddedu).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     unrhyw dystiolaeth sy’n ymwneud â’r materion a grybwyllir yn adran 33(6) o Ddeddf 2013;

(b)     unrhyw dystiolaeth sy’n ymwneud â’r materion a grybwyllir yn adran 33(9) o Ddeddf 2013; ac

(c)     unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle neu reolwr y safle, yn ôl y digwydd.

Ceisiadau sy’n ymwneud â’r Rheoliadau Rheolau Safle

70.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan reoliad 10 o’r Rheoliadau Rheolau Safle (hawl i apelio i dribiwnlys mewn perthynas â phenderfyniad y perchennog).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     yr hysbysiad o gynnig a ddyroddwyd o dan reoliad 8 o’r Rheoliadau Rheolau Safle;

(b)     y ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad a ddyroddwyd o dan reoliad 9 o’r Rheoliadau Rheolau Safle; ac

(c)     unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.

71.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan reoliad 17 o’r Rheoliadau Rheolau Safle (hawl i apelio i dribiwnlys ynghylch adneuad).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     y ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad a ddyroddwyd o dan reoliad 9 o’r Rheoliadau Rheolau Safle; a

(b)     unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.

Ceisiadau a wneir o dan Ddeddf 2014

Ceisiadau sy’n ymwneud â dirymu cofrestriad landlord

72.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 17(4) o Ddeddf 2014 (apêl yn erbyn dirymu cofrestriad).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r hysbysiad o fwriad yr awdurdod trwyddedu i ddirymu cofrestriad a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw;

(b)     unrhyw sylwadau a wnaed gan y landlord mewn ymateb i hysbysiad o fwriad yr awdurdod trwyddedu i ddirymu cofrestriad;

(c)     copi o’r hysbysiad sy’n dirymu cofrestriad y landlord.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod trwyddedu.

Ceisiadau sy’n ymwneud ag apelau trwyddedu

73.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 27(1) o Ddeddf 2014.

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r hysbysiad o fwriad yr awdurdod trwyddedu i ddiwygio neu ddirymu’r drwydded neu i wneud y drwydded yn ddarostyngedig i amod, yn ôl y digwydd, a’r rhesymau dros ei benderfyniad;

(b)     unrhyw sylwadau a wnaed mewn ymateb i hysbysiad o fwriad yr awdurdod trwyddedu i ddiwygio neu ddirymu’r drwydded;

(c)     copi o’r hysbysiad sy’n gwneud y drwydded yn ddarostyngedig i amod (ac eithrio gofyniad i gydymffurfio â chod ymarfer a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru), sy’n gwrthod rhoi, sy’n diwygio neu’n dirymu’r drwydded, yn ôl y digwydd; a

(d)     unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r landlord.

Ceisiadau sy’n ymwneud â gorchmynion atal rhent

74.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 30 o Ddeddf 2014 (gorchmynion atal rhent).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     pan wneir cais gan yr awdurdod trwyddedu neu’r ATLl —

                           (i)    copi o’r hysbysiad o’r bwriad i ddwyn achos o dan adran 30(6)(a) o Ddeddf 2014;

                         (ii)    copi o unrhyw sylwadau a gafwyd mewn cysylltiad â’r hysbysiad;

                       (iii)    naill ai—

(aa)        datganiad yn cynnwys y manylion y dibynnir arnynt ar gyfer gwneud yr honiad bod trosedd o dan adran 7(5) neu 13(3) o Ddeddf 2014 wedi ei chyflawni; neu

(bb)       prawf bod y person priodol wedi ei euogfarnu o drosedd o dan adran 7(5) neu 13(3) o Ddeddf 2014; a

                        (iv)    dogfen sy’n dangos y taliadau cyfnodol gan yr awdurdod trwyddedu neu’r ATLl mewn cysylltiad â thenantiaeth ddomestig o’r annedd yn ystod y cyfnod yr honnir i drosedd o’r fath gael ei chyflawni.

(3) Pan wneir cais y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gan ATLl rhaid darparu tystiolaeth o’r cydsyniad o dan adran 30(2) o Ddeddf 2014.

(4) Yr ymatebydd penodedig yw’r landlord.

Ceisiadau sy’n ymwneud â gorchmynion ad-dalu rhent

75.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 32 o Ddeddf 2014 (cais gan yr awdurdod trwyddedu, yr ATLl neu’r tenant am orchymyn ad-dalu rhent).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     pan wneir y cais gan yr awdurdod trwyddedu neu’r ATLl—

                           (i)    copi o’r hysbysiad o’r bwriad i ddwyn achos o dan adran 32(6)(a) o Ddeddf 2014;

                         (ii)    copi o unrhyw sylwadau a gafwyd mewn cysylltiad â’r hysbysiad;

                       (iii)    naill ai—

(aa)        datganiad yn cynnwys y manylion y dibynnir arnynt ar gyfer gwneud yr honiad bod trosedd o dan adran 7(5) neu 13(3) o Ddeddf 2014 wedi ei chyflawni; neu

(bb)       pan fo’r awdurdod trwyddedu neu’r ATLl yn dibynnu ar ddarpariaethau adran 33 o Ddeddf 2014, prawf bod y person priodol wedi ei euogfarnu o drosedd o dan adran 7(5) neu 13(3) o Ddeddf 2014; a

                        (iv)    dogfen sy’n dangos y budd-dal tai neu’r dyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol a dalwyd gan yr awdurdod trwyddedu neu’r ATLl mewn cysylltiad â thenantiaeth o’r annedd yn ystod y cyfnod yr honnir i drosedd o’r fath gael ei chyflawni;

(b)     pan wneir y cais gan denant—

                           (i)    tystiolaeth bod y person priodol wedi ei euogfarnu o drosedd o dan adran 7(5) neu 13(3) o Ddeddf 2014 neu y’i gwnaed yn ofynnol drwy orchymyn ad-dalu rhent ei fod yn gwneud taliad mewn cysylltiad â budd-dal tai neu gredyd cynhwysol; a

                         (ii)    tystiolaeth bod y tenant wedi talu taliadau cyfnodol mewn cysylltiad â thenantiaeth o’r annedd yn ystod y cyfnod yr honnir bod trosedd o’r fath yn cael ei chyflawni.

(3) Pan wneir cais y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gan ATLl rhaid darparu tystiolaeth o’r cydsyniad o dan adran 32(2) o Ddeddf 2014.

(4) At ddibenion y paragraff hwn mae i’r term dyfarniad perthnasol o gredyd cynhwysol yr un ystyr ag a ddiffinnir yn adran 32(9) o Ddeddf 2014.

(5) Yr ymatebydd penodedig yw’r landlord.

Ceisiadau a wneir o dan Ddeddf 2015

Ceisiadau sy’n ymwneud â hysbysiadau terfynol

76.(1)(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf 2015 (apêl yn erbyn cosb ariannol).

(2) Y dogfennau penodedig yw—

(a)     copi o’r hysbysiad o fwriad a gyflwynwyd i’r asiant gosod gan yr awdurdod pwysau a mesurau lleol o dan baragraff 1(1) o Atodlen 9 i Ddeddf 2015;

(b)     copi o unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan yr asiant gosod ar ôl cael yr hysbysiad o fwriad a ddyroddir o dan baragraff 2 o Atodlen 9 i Ddeddf 2015;

(c)     copi o’r hysbysiad terfynol a gyflwynwyd i’r asiant gosod gan yr awdurdod pwysau a mesurau lleol o dan baragraff 3 o Atodlen 9 i Ddeddf 2015; a

(d)     unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.

(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod pwysau a mesurau lleol perthnasol.

 

 

     

 

 



([1])           2004 p. 34.

([2])           Mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Ddeddf Tai 2004 yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30(2)(c) o Atodlen 11 iddi.

([3])           O.S.  2014/1764 (Cy. 179).

([4])           2012 p. 5.

([5])           2015 p. 15.

([6])           2014 dccc 7.

([7])           2013 dccc 6.

([8])           2004 p. 34.

([9])           1985 p. 68.

([10])         O.S. 2012/531 (Cy. 83).

([11])         O.S.  2014/286 (Cy. 35).

([12])         O.S.  2014/2553 (Cy. 247).

([13])         O.S.  2015/1821 (Cy. 263).

([14])         O.S.  2013/1723 (Cy. 167).

([15])         O.S.  2014/107.

([16])         O.S.  2013/2042.